Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.
Darllenwch rhain yn Gymraeg.Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.
Ydych chi erioed wedi anobeithio am gyflwr y byd ac wedi teimlo, petai pobl ond yn adnabod Duw, y byddai pethau'n well? Mae'r salmydd yn galarnadu mewn ffordd debyg.
Fel yn Salm 50, yr edrychon ni arni ddydd Mawrth, mae Duw yn ymddangos yn y salm i farnu, ac rydyn ni mewn sefyllfa debyg yma. Efallai fod hyn yn anghyfforddus i ni (ac mae darluniau o Dduw fel barnwr yn sicr yn llai ffasiynol nag yr oedden nhw, ac mae iaith adnod 5 yn teimlo'n arbennig o gryf), ond dychmygwch hyn o safbwynt rhywun sy'n gwylio pobl yn cael eu gormesu gan eraill (adnod 4). Mae'n swnio'n debycach i gri am gyfiawnder.
Mae'r salm hon, fel llawer o rai eraill, yn gweddu i berthynas y cyfamod a wnaed rhwng Duw a chenedl Israel. Mae'r rheolau wedi'u gosod drwy Deuteronomium, gyda'r alwad gref i 'ddewis bywyd', ufuddhau i'r gorchmynion a derbyn amddiffyniad a chariad Duw a pheidio â dewis marwolaeth: mynd yn groes i orchmynion Duw.
Mae'n ymddangos bod y salmydd yn gwylio hynny'n digwydd a'i fod yn ymbil am gyfiawnder. Mae'r salmydd yn gorffen gyda gweddi am ffyniant pobl Dduw. Yn rhan o'r eglwys, mewn perthynas gyfamodol newydd â Duw, beth allai fod i alarnadu amdano? A beth allai fod i weddïo amdano?
Arglwydd, diolch mai ti yn unig sy’n dal yn driw. Pan fyddwn yn anobeithio am gyflwr y byd, helpa ni i alw arnat ti i newid calonnau.
Mae Helen Crawford yn Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl