Skip to main content

‘Roedd hi’n nos': Ioan 13.21–30 (Mawrth 23, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Ioan 13

Yn Efengyl Ioan, canolbwynt stori'r Swper Olaf yw Iesu'n golchi traed ei ddisgyblion. Mae'n dangos y berthynas y mae pob crediniwr i'w chael gyda'i gilydd, ac yn enwedig y berthynas y mae arweinwyr i'w chael â'u dilynwyr.

Nid ydym yn gwybod beth arweiniodd Jwdas i fradychu Iesu, ond erbyn hyn roedd wedi mynd yn rhy bell. Ar ôl rhannu'r pryd olaf, mae'n gadael i wneud ei waith dieflig olaf.

Un o themâu Ioan yw'r cyferbyniad rhwng goleuni a thywyllwch. Yn y bennod flaenorol mae Iesu'n rhybuddio pobl gyda’r geiriau ‘Cerddwch yn y golau tra mae gyda chi, rhag i'r tywyllwch gael y llaw uchaf arnoch chi' (12.35). Ar ôl i Jwdas adael y cyfarfod, mae Ioan yn ysgrifennu'n drist, 'Roedd hi'n nos': mae o wedi mynd allan i'r tywyllwch.

Yn y byd datblygedig Gorllewinol, nid ydym yn deall tywyllwch mewn gwirionedd. Mae'r mwyafrif ohonom yn byw mewn dinasoedd nad ydynt byth yn dywyll iawn. Os ydym yn byw yn y wlad ac rydym allan yn y caeau mae gennym ni fflach lampau pwerus sy'n taflu goleuni wrth gyffyrddiad botwm. Roedd darllenwyr Ioan yn gwybod sut beth oedd noson ddileuad: roedd gwir dywyllwch yn ddryslyd ac yn beryglus.

Mae trasiedi Jwdas yn dweud wrthym, os trown oddi wrth olau Iesu, ein bod yn dod yn agored i unrhyw fath o demtasiwn. Ni ddylem byth feddwl nad ydym yn gallu bradychu Crist; yn wir, rydym yn ei wneud yn llawer rhy aml.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gerdded yng ngoleuni Crist, ac i fod yn ddigon doeth a chryf i droi cefn ar dywyllwch. Maddau imi am yr amseroedd yr wyf wedi ei fradychu, a thrugarha wrthyf.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible