Skip to main content

Pwy all fod yn ein herbyn?: Rhufeiniaid 8.18–39 (17 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 8

Yma mae Paul yn ymchwilio i’r gwrthdaro hir rhwng da a drwg yn y natur ddynol. Nawr, meddai, mae gennym ni allu dwyfol, yr Ysbryd Glan, ar ein hochr ni. Roedd marwolaeth Crist yn gyfawr tyngedfennol, ac rydym yn rhannu yn ei fywyd atgyfodedig. Ond nid yw’r broses o atgyfodi wedi’i chwblhau eto; mae byd newydd yn dod, ond nid ydyw wedi’i eni eto (adnod 22). Rydym ni ein hunain, er bod gennym yr Ysbryd fel ‘rhagflas o beth sydd i ddod’ (adnod 23) yn dal i aros i’r amser y bydd Duw’n ‘ein mabwysiadau ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd!’.

Felly, yn wyneb helbul, caledi, erledigaeth, newyn, tlodi, perygl neu hyd yn oed marwolaeth (adnod 35) nid oes angen i ni ofni: ni fydd Duw yn cefnu arnom, oherwydd ni all unrhyw beth ein gwahanu oddi wrth ei gariad.

Nid yw Rhufeiniaid 8 yn destun diwinyddol sych. Daw’n uniongyrchol o brofiad Paul ei hun o gael ei wneud yn newydd yng Nghrist ond yn dal i wynebu brwydrau bywyd. Roedd Paul yn gwybod beth oedd caledi corfforol, loes ddofn a siom, salwch a phoen. Roedd yn destun gwrthgasedd treisgar, ac yn cael ei ystyried yn fradwr gan lawer o’i bobl ei hun. Teimlai hyn i gyd i’r byw. Ond hyd yn oed yn ddyfnach gwyddai ‘does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!’ (adnod 39). Dyma’r wybodaeth sydd wedi cynnal merthyron Cristnogol adeg eu marwolaeth. Mae’n wir i bob un ohonom.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am dy gariad tragwyddol tuag ataf. Yn yr amseroedd tywyll, helpa fi i gofio dy fod yn ffyddlon a bod Crist wedi cyfodi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible