Skip to main content

Parti neu esgymun? Genesis 21.5–21 (Ionawr 20 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 21.5–21

Dylai fod yn amser parti. Rydyn ni wedi teithio gydag Abraham a Sarah trwy lwybr garw anffrwythlondeb, addewidion sy'n ymddangos yn anghyflawn a gorfod aros yn hir iawn - yn ôl safonau unrhyw un. Ond ar ôl 25 mlynedd, mae Isaac bellach yn cael ei eni! Mae Duw wedi cyflawni ei addewid i Abraham a Sarah drwy roi mab iddynt. Mae gwraig y tu hwnt i oedran beichiogi plentyn wedi cael plentyn. Mae'n iawn i ddathlu!

Ac eto mae'n ddarn chwerwfelys. Does dim dianc rhag triniaeth ddidostur Hagar, morwyn Sara, sydd unwaith eto’n dioddef cenfigen Sara. Byddai cais Sara i anfon Hagar a'i mab i ffwrdd bron yn sicr wedi diweddu yn eu marwolaeth (adnod 16). Mae'n boenus gweld diffyg ymddiriedaeth Abraham a Sara yn Nuw yn achosi mwy o ddinistr, yn enwedig ar draul Hagar ac Ishmael nad oedd ganddynt fawr o reolaeth dros yr hyn a ddigwyddai iddynt.

 Ond mae Duw yn ymwneud â phob rhan o'r stori hon. Mae'n codi darnau’r hyn a wnaeth Abraham a Sarah â bendithion i bawb. Mae'n addo amddiffyniad a ffyniant i Hagar ac Ishmael, gan glywed eu cri ac addo dyfodol a phwrpas gwych iddynt. Mae'n tawelu meddwl Abraham - sy'n teimlo poen gweithredoedd Sarah (adnod 11) - mae ganddo bethau yn ei law. Wrth inni ddilyn ewyllys Duw am ein bywydau, does dim dwywaith y byddwn yn cael pethau’n anghywir weithiau, gan frifo eraill yn y broses. Gadewch inni edifarhau’n ddigonol a symud ymlaen, gan ymddiried yn Nuw i’n helpu i roi’r darnau yn ôl at ei gilydd.

Gweddi

Gweddi

Molwn di, Dduw, y gellir ymddiried ynot i wneud fel yr wyt yn ei ddweud. Diolch i ti am yr amseroedd rwyt wedi cadw dy addewidion i mi: rwyf yn eu henwi o dy flaen di rwan. Maddau imi am yr amseroedd rwyf wedi gadael i'm hansicrwydd gyfarwyddo fy ngweithredoedd ar draul eraill, yn hytrach nag ymddiried yn dy addewidion. Cadwa fi i gerdded yn dy ewyllys a helpa fi i weld sut rwyt ti’n gweithio allan dy addewidion yn fy mywyd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible