Skip to main content

Pan rydych yn gweddïo: Luc 11.1–13 (26 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch am dy air. Helpa fi i wrando. Helpa fi i ymddiried. Helpa fi i weithredu.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 11.1–13

Fel Mathew, mae Luc yn cynnwys Gweddi’r Arglwydd yn ei Efengyl ond, yn wahanol i Mathew, mae’n ychwanegu nifer o ddamhegion am gymeriad Duw.

Yn y ddameg gyntaf mae Iesu’n cyferbynnu Duw â dyn sy’n anfodlon wrth roi i ffrind yr hyn y mae wedi dod i ofyn amdano – yng nghanol y nos. Os gellir perswadio bod dynol i helpu ffrind triw ar adeg anghyfleus, pam ddylai Duw, sydd â phopeth ac sydd ar gael drwy’r amser, eich ymwrthod? Daliwch ati i ofyn.

Mae Iesu’n parhau i ddefnyddio tair cyfatebiaeth: rhywun yn gofyn ac yn derbyn; rhywun yn chwilio am rywbeth ac yn dod o hyd iddo a drws ar agor i rywun yn curo. Maent yn ddelweddau cofiadwy sy’n ailadrodd yr un neges: peidiwch â rhoi’r gorau i weddïo. Bydd Duw yn ymateb.

Mae’r adnodau nesaf yn sôn am reddf naturiol tad i ofalu am anghenion ei blentyn a’i gadw rhag niwed, gan ategu'r neges gynharach: os gall tadau dynol gyda gwendidau ddangos caredigrwydd, pam na fyddai ein tad nefol yn gwneud yr un peth?

Ar adegau, mae’n ymddangos bod realiti yn llwyr wrthwynebu dysgeidiaeth Iesu. Mae llawer o weddïau, waeth pa mor ddifrif a thaer ydynt, yn mynd heb eu hateb. A allai hyn fod lle mae adnod 13 yn ein helpu i gael y darlun mawr: ‘mae'r Tad nefol yn siŵr o roi'r Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn iddo!’? Nid yw Duw yn cadw siop nac yw gweddi yn rhestr siopa. Mae Duw eisiau rhoi ei rodd fwyaf i ni: ei hun. Hanfod eithaf gweddi, felly, yw undeb ysbrydol â Duw. Ym mhresenoldeb yr Ysbryd Glân, gall ein hanghenion a’n dymuniadau fynd yn fud, am y tro o leiaf.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, helpa fi i dy geisio di’n gyntaf pan rwyf yn gweddïo.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible