Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Roedd Iesu'n wynebu gwrthwynebiad gan ei deulu. Mae'n ymddangos mai eu barn yw ei fod yn 'wallgof' (adnod 21), yn gysylltiedig â'r cyhuddiad gan yr ysgrifenyddion ei fod ‘wedi'i feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid!’, (adnod 22), ac yn ennyn ymateb craff iawn: os ydych chi'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân - trwy alw’n fwriadol yr hyn y mae Duw yn ei wneud yn ddrwg - ni fyddwch yn derbyn maddeuant. Ni all hyn olygu, wrth gwrs, na ellid maddau i’r ysgrifenyddion hyn - na theulu Iesu - gan fod llawer o bobl a oedd yn elyniaethus yn wreiddiol wedi newid eu meddyliau amdano a dod yn ddisgyblion iddo. Ond yn anochel mae parhau i gredu bod daioni yn ddrwg yn ein rhoi y tu allan i ewyllys Duw.
Rhaid bod gwrthdaro Iesu gyda'i deulu wedi bod yn boenus. Ond gallwn ddysgu dau beth o'r hyn y mae'n ei ddweud. Yn gyntaf, efallai y bydd angen i ni fynd yn groes i'r hyn y mae ein teuluoedd a'n cymunedau yn ei gredu a'i werthfawrogi os ydym am fod yn ffyddlon i Iesu. Mewn rhai diwylliannau mae hyn yn llawer anoddach nag y mae yn y Gorllewin, a dylem fod yn ymwybodol o hyn. Ond mae 'Iesu yn Arglwydd' yn ymrwymiad llwyr ble bynnag yr ydym.
Yn ail, pan fydd Iesu'n dweud ‘mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.’ (adnod 35) nid yw'n eithrio ei deulu, ond yn ei ymestyn. Fel y bydd ei weinidogaeth yn dangos, mae'n dod â'r alltud a'r rhai sydd wedi'u gwahardd, gan wthio’r ffiniau yn ehangach ac yn ehangach. Hyd yn oed heddiw, pan mae cwestiynau ynghylch cenedligrwydd a gwahanol fathau o hunaniaeth yn peri cymaint o ddiddordeb inni, mae hwn yn syniad chwyldroadol.
Duw, helpa fi i fod yn barod i ysgwyddo cost disgyblaeth, a rhoi Iesu yn gyntaf. Dangos i mi pwy rwyt ti am gynnwys yn dy deulu mawr, a helpa fi i'w croesawu.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.