Skip to main content

Nid doethineb dynol ond pŵer Duw: 1 Corinthiaid 2.1–15 (27 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 2

Mae adnodau agoriadol y bennod hon yn gyfaddefiad teimladwy o ddiffyg hunanhyder Paul fel pregethwr ac efengylydd: ‘Pan oeddwn i gyda chi roeddwn i'n teimlo'n wan iawn, yn ofnus ac yn nerfus’ meddai (adnod 3). Ond er nad oedd ganddo unrhyw hyder ynddo’i hun, roedd ganddo hyder llwyr yng Nghrist. Mae gweddill y bennod yn datblygu’r cyferbyniad hwn rhwng doethineb dynol a phŵer Duw. Yn syml, mae credinwyr yn gwybod pethau nad yw pobl eraill yn eu gwybod, a thrwy Ysbryd Duw gallent wneud pethau na all pobl eraill (adnod 14). Gall hyn ymddangos fel haerllugrwydd, ond nid ydyw os yr ydym yn ei ddal yng ngoleuni gras Duw tuag atom. Popeth sydd gennym ni, rydym wedi’i dderbyn.

Hyd yn oed ychydig ddegawdau yn ôl, yn y Gorllewin, roedd fframwaith Cristnogol yn eang ar gyfer deall y byd yn gyffredin. Nawr, nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd – er bod llawer o’r hyn yr ydym yn ei dybio am dda a drwg yn dal i fod yn seiliedig ar egwyddorion Cristnogol. Serch hynny, ni allwn dybio bod consensws cyffredinol yn cefnogi ein barn a’n hagweddau. Yn y ffordd honno, rydym yn agosach at Paul: daw ein hyder o’n hymddiriedaeth yng Nghrist a’n profiad o bŵer Duw yn ein bywydau.

Yn Ioan 9, mae’r Iesu’n iacháu dyn a anwyd yn ddall. Tystiolaeth y dyn yn erbyn y rhai a feirniadodd Iesu oedd, ‘dw i'n hollol sicr o un peth – roeddwn i'n ddall, a bellach dw i'n gallu gweld!’ (adnod 25).  Dim ots pa mor wan y gall ein hymdrechion i efengylu fod neu faint bynnag yr ydym yn teimlo ein bod yn rhan o leiafrif sydd wedi’i hesgeuluso, gallwn ddal i dystio i bŵer Duw wrth waith ynom ni. 

Gweddi

Gweddi

Duw, pan fyddaf yn teimlo’n annigonol ar gyfer y tasgau yr wyt ti wedi’i rhoi imi ac yn ansicr sut i fyw mewn byd nad yw’n dy gydnabod di, helpa fi i gofio dy gariad tuag ataf a dy ras a dywalltwyd drwy Iesu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible