Skip to main content

Hebreaid 9.23–28: ‘Llawer iawn mwy!’ (3 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.

Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratô fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi'n sicr o'th ddibenion cariadus imi, a llefara i'm bywyd heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Hebreaid 9.23–28

Yn Hebreaid 9, mae'r awdur yn parhau i fyfyrio ar sut mae Crist yn cyflawni system aberthu'r Hen Destament. O dan gyfraith Moses, gwneid llawer o aberthau; unwaith yn unig yr aberthwyd Crist. Roedd yr offeiriaid yn mynd i mewn i'r Cysegr Sancteiddiaf yn y babell neu'r tabernacl sanctaidd yn rheolaidd; unwaith yn unig yr aeth Crist i'r nefoedd. Roedd popeth a ddigwyddodd o'r blaen yn rhagfynegi'r hyn a gyflawnodd Crist unwaith ac am byth. 

Yn ei lythyr at y Galatiaid, ysgrifenna Paul yn wyllt gacwn at yr eglwys yno oherwydd nad yw'n ymddangos iddynt ddeall ystyr hyn. Mae rhai ohonynt yn dal i fynnu bod rhaid i'r rhai sy'n credu yng Nghrist gael eu henwaedu a bod rhaid iddynt ufuddhau i gyfreithiau defodau Iddewig, er nad Iddewon mohonynt. Er ei fod yn falch o fod yn Iddew, dywed nad ydynt wedi deall y pwynt: bod Crist ei hun yn ddigon (3.2). 

Efallai nad ydym yn ymgolli cymaint ym manylion addoli yn y Deml ac aberthu defodol ag yr oedd credinwyr Iddewig y ganrif gyntaf. Ond mae'r demtasiwn i gamgymryd y cysgod am y realiti yn un gyffredin iawn i gredinwyr ym mhob oes. Mae arnom i gyd angen systemau a strwythurau yn ein cymunedau ac yn ein bywydau personol. Mae traddodiadau'n dda; mae'r syniadau a'r credoau sy'n dynodi'r gwahanol ffyrdd o fynegi Cristnogaeth i gyd yn rhan o wead cyfoethog o feddwl a myfyrio. Ond ni ddylent byth ddod mor bwysig inni fel eu bod yn disodli Crist. 

Gweddi

Gweddi

Dduw, cynorthwya fi i gadw fy llygaid yn ddiysgog ar Iesu, ac i gofio ei fod yn gwbl alluog i'm hachub.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible