Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Mae Actau 7 yn adrodd hanes y merthyr cyntaf. Mae Steffan, yr un oedd â’i ‘wyneb yn disgleirio fel wyneb angel’ pan ddaethpwyd ag ef i dreial, yn rhoi gwers hanes i’r Sanhedrin, gan amlinellu’n fanwl – fel Iddew yn siarad â chyd-Iddewon – yr holl ffyrdd y mae pobl Dduw wedi bod yn ddiffygiol. Mae’n cloi trwy eu collfarnu’n bersonol: wrth gondemnio Iesu, maent eu hunain bellach wedi ‘bradychu a llofruddio’ yr Un Cyfiawn a ragfynegodd y proffwydi.
Mae’r stori’n adleisio stori Dafydd ar ôl ei bechod â Bathsheba, pan yn 2 Samuel 12 mae’r proffwyd Nathan yn ei wynebu. ‘Ti ydy’r dyn’, meddai, wrth i Dafydd weithio ei hun i gynddaredd am bechodau rhywun arall. Dywed Steffan wrth y Cyngor eu bod nhw, nid ef, yn euog. Ond yn wahanol i Dafydd – neu’r rhai a glywodd eiriau tebyg Pedr yn Actau 2.37 – nid ydynt yn cael eu gyrru i edifeirwch ond i gynddaredd. Mae’r Sanhedrin sobr yn troi’n dorf wyllt a Steffan yn cael ei lofruddio.
Nid yw byth yn hawdd cael eich cyhuddo o wneud cam. Byddai’n well gennym ganolbwyntio ar ein rhinweddau nag ar ein camweddau. Ond yr hyn sy’n bwysig yw beth sy’n digwydd nesaf. Gallwn feio eraill a gwadu realiti, neu alaru ac edifarhau. Os mai dicter a gwrthod yw ein hymateb, gall y canlyniadau fod yn ofnadwy.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.