Skip to main content

Nid yw’r Ysbryd ar werth: Actau 8 (Ionawr 8 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 8

Mae marwolaeth Steffan yn y bennod flaenorol yn nodi dechrau erledigaeth fawr gyntaf yr Eglwys, lle chwaraeodd y dyn a ddaeth yn adnabyddus fel yr Apostol Paul ran flaenllaw. Arweiniodd gwasgaru’r credinwyr at ledaenu’r efengyl, serch hynny. Un a’i clywodd oedd Seimon, dewin yn Samaria, a gredodd ac a fedyddiwyd. Pan geisiodd brynu’r gallu i roi’r Ysbryd Glan, condemniodd yr Apostolion ef.

Yr hyn sy’n ymddangos fel petai wedi digwydd yw bod rhoi’r Ysbryd yn cyd-fynd â phrofiadau ecstatig a oedd yn drawiadol iawn. Roedd Seimon yn gweld ei hun fel cyd-ymarferydd, a chynigiodd gytundeb yn yr un modd ag y gallai consuriwr brynu tric gan gydweithiwr. Ond roedd yr Apostolion yn glir iawn: nid dyna sut mae’n gweithio. Mae Seimon yn cael ei geryddu ac yn edifeiriol.

Mae’n hawdd ei gondemnio, ond dylem ddysgu ganddo hefyd. Roedd yn cymhwyso methodoleg y byd i’r Eglwys, fel pe baent yn gweithio yn yr un modd. Mae llawer o eglwysi ac arweinwyr eglwysi yn dueddol o wneud hyn: bydd y technegau cywir ar gyfer arweinyddiaeth neu dwf eglwysi a dynnir o fyd busnes neu farchnata, yn eu barn nhw, yn datrys problemau’r Eglwys. Ond mae teyrnas Dduw yn dra gwahanol. Nid oes unrhyw beth da yn digwydd oni bai bod ein calonnau’n iawn.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i ymddiried ynot ti yn hytrach na cheisio rheoli popeth.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible