Skip to main content

Dydd y Farn: Actau 24.10–26 (5 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 24

Mae’r bennod hon yn ymwneud ag ymddangosiad cyntaf Paul gerbron y llywodraethwr Rhufeinig, Ffelics. Wedi’i gyhuddo gan y cyfreithiwr Tertwlus (adnod 1) o derfysg a halogi’r Deml, mae’n amddiffyn ei hun yn glir ac yn ffeithiol: yn syml, nid yw’n euog, meddai.

Mae Ffelics yn briod â dynes Iddewig ac mae eisoes yn gwybod am Gristnogaeth, ‘y Ffordd’ (adnod 22). Fel uwch weinyddwr Rhufeinig efallai y byddai disgwyl iddo fod yn bendant a lle bo’r angen yn ddidostur, ond yn achos Paul mae’n petruso. Yn rhannol, mae Luc yn dweud wrthym, oherwydd bod ganddo lygad ar y casgliad y mae Paul wedi bod yn ei hel ar gyfer eglwys Jerwsalem (adnod 26); gweler (1 Corinthiaid 16. 1-4; 2 Corinthiaid 8.1-9.15; Rhufeiniaid 15.14-32). Nid oedd llywodraethwyr taleithiol Rhufeinig i gyd wedi’u cymell gan awydd i wasanaethu’r cyhoedd; gwnaeth llawer ohonynt ffortiwn enfawr o’u swydd.

Ond mae Luc hefyd yn dweud wrthym fod Paul wedi ‘sôn am fyw yn gyfiawn yng ngolwg Duw, yr angen i ddisgyblu'r hunan, a'r ffaith fod Duw yn mynd i farnu, daeth ofn ar Ffelics’ (adnod 25). Ar un lefel, efallai y byddem yn meddwl bod Paul wedi bachu ar y cyfle i fod yn dyst i’r efengyl. Ar lefel arall, serch hynny, mae’n dilyn yn ôl troed Iesu: yn nhreialon y ddau, daeth y cyhuddedig yn farnwr. Ar gyfer Tertwlus a Ffelics, Rhufain yw’r awdurdod eithaf; mae Paul yn gwybod mai Duw yw’r goruchaf, ac mai ei farn ef yw’r unig beth sy’n bwysig. Doedd ryfedd fod ofn ar Ffelics.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gofio mai ti yw barnwr cyfiawn pawb, ac yn y diwedd, y cyfan sy’n bwysig yw fy mod yn iawn ger dy fron.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible