Skip to main content

Duw yn dechrau chwalu rhwystrau: Actau 10.1–33 (10 Ionawr 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 10

Ar ddechrau’r Eglwys, roedd y credinwyr newydd yn wynebu cwestiwn enfawr – a ddylai mudiad Iesu fod ar gyfer Iddewon un unig, neu a oedd y Cenhedloedd yn cael eu cynnwys hefyd? Er bod digon o’r Cenhedloedd o gwmpas ym Mhalestina, roedd Iddewon sylwgar yn cadw eu hunain ar wahân ac nid oeddent yn ymweld â nhw nac yn bwyta gyda nhw. Ar yr un pryd, denwyd llawer o’r Cenhedloedd at grefydd yr Iddewon, gyda’i moesoldeb caeth a’i dyfnder ysbrydol.

Roedd gweledigaeth Pedr o len a ollyngwyd i lawr o’r nefoedd yn cynnwys anifeiliaid glân ac aflan yn arwydd iddo fod yr hen rwystrau hynny yn nheyrnas Dduw yn chwalu. Gallai Cornelius, y canwriad Rhufeiniaid ‘ofn Duw’, fod yn frawd yng Nghrist, a gallai’r Cenhedloedd dderbyn yr Ysbryd Glan. 

Mae Cristnogion yn dal i fod yn dueddol o boeni am gymdeithasu a’r bobl ‘anghywir’ neu fynd i’r lleoedd ‘anghywir’. Gall fod ymdeimlad, er mwyn bod yn wirioneddol sanctaidd, bod yn rhaid i ni osgoi cael ein dwylo yn fudr trwy osgoi pobl nad ydynt yn rhannu ein ffydd na’n barn. Dyma’r gwrthwyneb i’r hyn a wnaeth Iesu, neu’r hyn a ddysgwyd gan Pedr. Os ydym yn cymysgu â phobl nad ydynt fel ni, dylem boeni llai amdanynt yn ein heintio â phechod, ac yn meddwl mwy am eu heintio â gras.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld pob bod dynol fel y mae wedi ei wneud ar dy ddelw ac wedi ei garu gennyt ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible