Skip to main content

Condemnio proffwydi ffug: Eseciel 13 (9 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Deuwn ger dy fron Arglwydd, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Fe wnaethost ti ni ar dy ddelwedd dy hun a’n caru i fodolaeth. Felly bydd yn ein plith nawr, yn union fel yr ydym ni: dim mwy, dim llai. Diolchwn i ti Dduw am yr amser hwn heddiw. Amen.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseciel 13

Mae gweledigaeth nesaf Eseciel yn disgrifio’r nifer o broffwydi ffug a broffwydodd o’u dychymyg eu hunain, ac nid o wir weledigaeth a anfonwyd gan Dduw. Felly yn lle dweud y gwir, maen nhw wedi dweud celwyddau, gan ddefnyddio ymadroddion megis ‘fel hyn mae’r ARGLWYDD yn dweud’ pan nad yw’r ARGLWYDD wedi siarad â nhw. Fe wnaethant ragfynegiadau ffug ar gyfer Jerwsalem, y mae Duw yn eu condemnio heb drugaredd.

Tra yn y gorffennol roedd merched a oedd yn wir broffwydi, fel Debora yn llyfr y Barnwyr (4.4), erbyn hyn mae gweledigaethau ffug yn cael eu rhoi bob dydd am bris haidd. Ac mae’r proffwydi gau hyn yn ceisio ac yn hela eu hysglyfaeth ddiniwed. Mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar eu dioddefwyr yn prynu eu hud a’u celwyddau. Ond bydd yr ARGLWYDD yn gwaredu ei bobl o’u dwylo gan nad oes ganddo amser i ddewiniaeth nac ofergoeliaeth.

Neges graidd Eseciel ar gyfer yr Eglwys fyd-eang heddiw yw ei Dduw-ganologrwydd radical. Mae’r Duw sy’n cael ei gyflwyno yma yn hollol drosgynnol, yn berffaith sanctaidd, ac i beidio â chael ei israddio i gyrion bywyd ei bobl. Nid oes angen i Dduw gystadlu â’r twyllwyr a’r swynwyr, a fyddai’n methu’n druenus mewn unrhyw ornest â’r ARGLWYDD a’i broffwydi.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd cariadus, paid â gadael imi gael fy nhwyllo gan broffwydi gau heddiw sy’n ceisio hyrwyddo eu cynhyrchion disglair a’u mantrâu bywyd sy’n fy ngadael yn wag. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Fleur Dorrell, Rheolwr Ymgysylltu â’r Ysgrythur Catholig Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible