Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Mae pedwar ffrind y dyn sydd wedi ei barlysu yn ysu iddo gael ei iachau nes eu bod yn torri'r to fel y gall gyrraedd Iesu. Awgrymwyd y gallai Efengyl Marc fod wedi'i seilio ar dystiolaeth Pedr, ac efallai mai tŷ Pedr ydoedd; pwy bynnag oedd perchennog y tŷ, mae'n debyg bod ganddo deimladau cymysg am y bennod.
Mae'n ddelwedd bwerus iawn. Ar un lefel, mae'n ein herio ni am ein disgyblaeth a'n gofal am y rhai o'n cwmpas. Ydym ni mor ymroddedig â'r pedwar dyn hynny i weld ein ffrindiau'n dod at Iesu? Efallai ddim.
Y mynediad cyffrous, serch hynny, yw dechrau’r ddrama go iawn. Mae Iesu'n dweud wrth y dyn sydd wedi'i barlysu bod ei bechodau'n cael eu maddau, gan achosi dicter gan rai o'i wrandawyr. Mae hynny'n hawdd: nid oes unrhyw un yn gwybod a yw'n wir ai peidio. Gallai unrhyw un ei ddweud. Ond mae dweud wrtho am godi a cherdded yn wahanol. Mae'n amlwg ar unwaith os yw'r person sy'n ei ddweud yn dwyllwr neu’n dweud y gwir. Mae enw da rhywun sy'n dweud hynny yn y fantol.
Mae hyn hefyd yn her i'n disgyblaeth Gristnogol. Mae'n wir fod pawb angen maddeuant rhag pechodau. Ond os mai dyna yw holl gynnwys ein neges efengyl, mae perygl inni gilio i fyd haniaethol, lle nad ydym yn cael ein cyfrif. Mae'r stori hon yn ein gwahodd nid yn unig i fod yn feiddgar yn ein honiadau, ond i fod yn barod i'w cefnogi gyda thystiolaeth. Pa wahaniaeth y mae ein ffydd yn ei wneud mewn gwirionedd? Beth mae'n newid er daioni? Beth sy'n gadael pobl yn dweud, ‘Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!' (adnod 12)?
Duw, helpa fi i fod yn barod i fentro ar dy ran, ac i ategu'r hyn rwy'n ei ddweud gyda'r hyn rwy'n ei wneud.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.