Skip to main content

Caru eich gilydd: Rhufeiniaid 13.1–10 (22 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 13

Mae’r bennod hon yn dechrau gydag amlinelliad o awdurdod a roddwyd gan Dduw i’r wladwriaeth. Roedd Paul yn ysgrifennu yng nghyd-destun cyfraith Rufeinig, a oedd yn deg ar y cyfan os weithiau’n arswydus o greulon. Pam oedd Paul yn teimlo bod angen iddo ddweud hyn? Efallai bod sibrydion bod dilynwyr y grefydd newydd hon yn annheyrngar i Rufain, a’i fod am eu hatal. Nid yw pob gwladwriaeth yn gyfiawn, serch hynny. Yn Datguddiad, Babilon yw Rhufain, wedi meddwi ar waed pobl Dduw’ (17.6), wedi ei thynghedu i ddinistr. Nid yw Rhufeiniaid 13 yn golygu na ddylai Cristnogion wrthsefyll drygioni mewn awdurdod.

Yn adnod 8 aiff Paul ar drywydd gwahanol. Dylem ufuddhau cyfraith y wlad ynghyd â chyfraith Duw, ond mae ein hymddygiad yn seiliedig ar gariad yn hytrach na byw o fewn y gyfraith; ‘cariad ydy'r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn’ (adnod 10), canys mynegiadau o gariad yw deddfau yn erbyn godineb, llofruddiaeth a dwyn.

Mewn geiriau eraill, cariad sy’n dod yn gyntaf – nid yw Paul yn dweud, ‘ufuddhau i’r gyfraith gyfan yw caru’. Unwaith eto, gras yw ei thema. Rydym mewn perthynas â Duw oherwydd ei fod yn estyn allan atom ni ac rydym yn ymateb iddo. Un ffordd – er nad yr unig ffordd – o ddangos ein cariad yw gwneud yr hyn y mae’n ei orchymyn.

Efallai ein bod ni i gyd yn adnabod pobl sydd â’u bywydau’n uniawn ym mhob ffordd, ond sy’n oer ac yn gybyddlyd – ac efallai bod Duw yn edrych arnynt yn llai caredig nag y mae Ef ar y rhai nad ydynt bob amser yn cael pethau’n iawn, ond sy’n cael eu gyrru gan gariad angerddol tuag ato.

Gweddi

Gweddi

Duw, dysg i mi garu fel y cefais fy ngharu. Helpa fi i wneud y pethau iawn, nid oherwydd fyd mod yn ofni beth fydd yn digwydd os na wnaf, ond oherwydd dy fod wedi newid fy nghalon.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible