Skip to main content

Cadw'n ddi-fai: 1 Thesaloniaid 5.1–28 (18 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Thesaloniaid 5.1–28

Rhoddodd Paul gyngor i’r Thesaloniaid yng ngoleuni’r gred bod Iesu’n dychwelyd yn fuan iawn. Felly, mae’n hynod ddiddorol gweld pa mor bwyllog a chytbwys ydyw. O bryd i’w gilydd, mae ‘proffwydi’ yn rhagweld diwedd y byd. Yn 1000 OC, roedd llawer o Gristnogion o’r farn y byddai Crist yn dychwelyd yn seiliedig ar Datguddiad 20. Rhoddodd pobl gyfoethog eu heiddo i ffwrdd ac roedd rhuthr i’r eglwysi. Ychydig flynyddoedd yn ôl, rhoddodd dilynwyr efengylwr Americanaidd y gorau i’w swyddi a gwario eu cynilion yn hyrwyddo ei gred y byddai’r byd yn dod i ben yn 2011.

Nid yw Paul yn annog y math hwnnw o ymddygiad. Yn lle hynny, mae’n dweud wrth y Thesaloniaid i fod yn ‘sobr’ (adnodau 6,8). Bydd ‘Dydd yr Arglwydd’ yn dod yn annisgwyl (mae yna adleisiau o Amos 5.18), felly dylai Cristnogion fod yn barod bob amser. Dyma ddoethineb ymarferol. Mae ei gyfarwyddiadau i gloi yn ddiymhongar, bron fel pe bai’n lleihau eu brwdfrydedd yn hytrach na’i danio. Parchwch eich athrawon, helpwch eich gilydd, byddwch yn llawen, gweddïwch, gwnewch ddaioni ac osgoi drwg: mae’r rhain i gyd yn safonau sylfaenol ar gyfer byw yn Gristnogol.

Efallai, felly, y dylem dalu mwy o sylw iddynt. I Paul, dyma sut rydych yn byw os ydych chi’n gwybod y gallai Crist ddychwelyd ar unrhyw adeg. Ni fyddai llawer ohonom yn gwbl gyfforddus â chyflwr ein heneidiau yng ngoleuni’r meddwl hwnnw. Felly’r her yw, a allwn ni wneud y safonau hyn yn normal yn ein bywydau? Fe’n gelwir i ‘gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl’ (adnod 23).

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fyw yng ngoleuni dychweliad Crist, yn barod ac yn aros am ddyfodiad y brenin.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible