Skip to main content

Barnwch neb: 1 Corinthiaid 4.1–13 (29 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 4

Mae Paul yn ysgrifennu o’r galon, nid y pen un unig. Yn yr adran hon, er ei fod wedi ceisio hyd yn hyn i fod yn ddiplomataidd gyda’r Corinthiaid, mae ei lid yn cael y gorau ohono ac mae’n iselhau ei hun i goegni (adnod 10). Yn eu cynnen bleidiol mae’r Corninthiaid yn beirniadu yn ôl safonau bydol ac yn canmol pobl oherwydd sut maent yn edrych ac yn swnio, wrth ddibrisio pobl sy’n dlawd ac sy’n creu llai o argraff.

Mae Paul mewn sefyllfa anodd. Yng ngolwg llawer o bobl, mae Apolos yn edrych yn debycach o lawer i apostol nag y mae ef. Efallai ei fod yn dod o ddosbarth cymdeithasol swyddogion, yn arweinydd naturiol, yn olygus, yn garismatig ac yn huawdl. Nid yw Paul byth yn ymosod arno, ond ni all amddiffyn ei hun rhag Apolos yn uniongyrchol chwaith. Yn lle hynny, mae’n amddiffyn ei apostoliaeth, gan gynnu sylw bod pob un o’r apostolion yn llwglyd ac yn sychedig, wedi’u gwisgo mewn carpiau, wedi eu curo ac yn ddigartref (adnod 11). Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i’r Corinthiaid ddirmygu pobl yn unig am nad oeddent yn edrych yn fel arweinwyr a dylanwadwyr: ni ddylent farnu pobl fel hyn o gwbl (adnodau 5-6).

Mae’r temtasiwn Corinthaidd yn un y mae Cristnogion yn dal yn dueddol i’w gael – ond nid Cristnogion yn unig. Mae rhywun sy’n edrych yn iawn ac yn siarad yn iawn – sy’n cyd-fynd â’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan ein harweinwyr, efallai o ran addysg, dosbarth, hil, iaith a diwylliant – bob amser yn cael y blaen o ran derbynioldeb a dylanwad. Ond dirmygwyd a gwrthodwyd Iesu. Mae angen i Gristnogion ddatblygu’r gallu i glywed gwirionedd o ffynonellau annisgwyl; i wrando ar y tlawd a’r ymylol, a gwrthsefyll sglein a hudoliaeth apêl fydol.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld eraill fel yr wyt ti yn eu gweld. Paid â gadael imi farnu yn ôl safonau bydol, ond yn ôl dy safonau di, a helpa fi i glywed dy lais yn siarad trwy bobl annhebygol.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible