No themes applied yet
Dafydd aʼi filwyr yn amddiffyn tref Ceila
1Clywodd Dafydd fod y Philistiaid wedi ymosod ar Ceila,23:1 Ceila Tref rhyw dair milltir iʼr de o Adwlam. ac yn dwyn ŷd oʼr lloriau dyrnu. 2A dyma feʼn gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymosod ar y Philistiaid yma?” A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos. Ymosod ar y Philistiaid ac achub Ceila.” 3Ond dyma ddynion Dafydd yn dweud wrtho, “Mae digon o ofn arnon ni yma yn Jwda! Bydd hi lawer gwaeth os awn ni i Ceila i ymladd yn erbyn byddin y Philistiaid!” 4Yna aeth Dafydd i ofyn iʼr ARGLWYDD eto; a dymaʼr ARGLWYDD yn rhoiʼr un ateb iddo, “Cod, a dos i lawr i Ceila, achos bydda iʼn gwneud i ti ennill y frwydr yn erbyn y Philistiad.” 5Felly dyma Dafydd aʼi ddynion yn mynd i Ceila ac ymladd yn erbyn y Philistiaid, a dwyn eu gwartheg nhw. Roedd lladdfa ofnadwy, ond llwyddodd Dafydd i achub pobl Ceila.
6Pan oedd Abiathar, mab Achimelech, wedi dianc at Dafydd, roedd wedi dod ag effod gydag e.
7Clywodd Saul fod Dafydd wedi dod i Ceila, a dwedodd, “Mae Duw wediʼi roi eʼn fy nwylo i! Mae e wedi cau ei hun mewn trap drwy fynd i dref sydd â giatiau dwbl a barrau iʼw cloi.” 8Felly dyma Saul yn galwʼi fyddin gyfan at ei gilydd, i fynd i Ceila i warchae ar Dafydd aʼi ddynion. 9Pan glywodd Dafydd fod Saul yn cynllunio i ymosod arno, dyma feʼn galw ar Abiathar yr offeiriad, “Tyrd âʼr effod yma.” 10Yna dyma feʼn gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrioʼr dre am fy mod i yma. 11Fydd awdurdodauʼr dre yn fy rhoi iʼn ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.” A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae eʼn dod.” 12Wedyn dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i aʼm dynion i Saul?” A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.” 13Felly dyma Dafydd aʼi ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhwʼn symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma feʼn rhoiʼr gorau iʼw fwriad i ymosod ar y dre.
Dafydd yn cuddio yn y bryniau
14Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff.23:14 Siff Tua un deg tair milltir iʼr de-ddwyrain o Ceila. Roedd Saul yn chwilio amdano drwyʼr amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddoʼi ddal. 15Pan oedd Dafydd yn Horesh yn anialwch Siff, roedd ganddo ofn am fod Saul wedi dod yno i geisioʼi ladd e. 16Ond dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd iʼw annog i drystio Duw. 17Dwedodd wrtho, “Paid bod ag ofn! Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti. Ti fydd brenin Israel a bydda iʼn ddirprwy i ti. Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.” 18Ar ôl iʼr ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon iʼw gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre.
19Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt tiʼn gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila iʼr de o Jeshimon.23:19 Jeshimon Lle yn yr anialwch wrth ymyl ffin ddeheuol Jwda, ger y Môr Marw. 20Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn niʼn gyfrifol am ei roi eʼn dy afael di.” 21Ac meddai Saul wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi! 22Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a phwy sydd wediʼi weld e yno. Maen nhwʼn dweud i mi ei fod yn un cyfrwys. 23Ffeindiwch allan lle yn union mae eʼn cuddio. Pan fyddwch chiʼn berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda iʼn dod gyda chi. Bydda iʼn dod o hyd iddo ble bynnag mae e, yng nghanol pobl Jwda i gyd.”
24Felly dyma nhwʼn mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd aʼi ddynion yn anialwch Maon,23:24 Maon Tua pedair milltir a hanner iʼr de o Siff. yn Nyffryn Araba iʼr de o Jeshimon. 25A dyma Saul aʼi ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le oʼr enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon. 26Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon. Roedd Saul un ochr iʼr mynydd pan oedd Dafydd aʼi ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul aʼi filwyr ar fin amgylchynu Dafydd aʼi ddynion aʼu dal nhw. 27Ond yna daeth neges yn dweud wrth Saul am frysioʼn ôl adre am fod y Philistiaid wedi ymosod ar y wlad. 28Felly roedd rhaid i Saul stopio mynd ar ôl Dafydd a mynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid. (Dyna pam maeʼr lle yn cael ei alw yn Graig y Gwahanu.)
29Yna aeth Dafydd i fyny oʼr fan honno ac aros mewn lle saff yn En-gedi.23:29 En-gedi Gwerddon ar lan y Môr Marw, tua un deg wyth milltir iʼr de-ddwyrain o Hebron, a heb fod yn bell o Masada.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015