Skip to main content

Amser dewis: Luc 23.1–25 (8 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 23.1–25

Mae Pilat yn gofyn i Iesu ai ef yw ‘brenin yr Iddewon’ (adnod 3). Mae Iesu’n rhoi ateb diddorol iawn: ‘Ti sy’n dweud’. Yn Groeg mae’n llythrennol, ‘Rwyt yn dweud’. Ar wahan i hynny, nid yw’n ateb ei gyhuddwyr (adnod 9) ac mae’n siarad yn unig â merched Jerwsalem (adnod 28) a’r lleidr ar y groes (adnod 43).

Mae’n ymddangos ei fod wedi mynd heibio i apelio at bobl neu geisio cael eraill i’w ddeall. Nawr mae’n bryd i bobl ddewis: ‘Ti sy’n dweud’. Mynegir yr un meddwl yn newis y bobl o ryddhau Barabbas dros Iesu (adnod 18) a gwahanol ymatebion y lladron a groeshoeliwyd gydag ef (39-40). Mae wedi treulio blynyddoedd yn byw ac yn gweithio gyda’r bobl, yn dysgu, yn gwneud gwyrthiau ac yn dangos ffordd wahanol o fyw iddynt; os ef yw ‘brenin yr Iddewon’, mae’n frenin hollol wahanol i’r hyn oeddent yn feddwl. Mae ganddynt yr holl wybodaeth maent eu hangen.

Mae yna ddrama fawr yma, a llawer o rai bach. O fewn cwmpas stori’r Efengyl, bu’n rhaid i Iesu farw; dyna ddirgelwch iachawdwriaeth. Roedd yna fath o ddrygioni cosmig ar waith. Ond roedd gan yr unigolion dan sylw eu dewisiadau eu hunain i’w gwneud hefyd. Mae pob un o’r dewisiadau hyn yn stori ddynol. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ddewis hefyd. Pa fath o frenin yw Iesu – a ble rydym yn stori? Yn wylo fel y merched neu’n galw am Barabbas, yn hyrddio sarhad fel un lleidr neu’n edifeiriol fel y llall?

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am Iesu, a oedd yn barod i ddioddef a marw drosof. Helpa fi i ddewis yn iawn, a’i wasanaethu hyd y diwedd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible