Author: Bible Society, 20 September 2017
450 o flynyddoedd yn ôl, ef oedd y cyntaf i gyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg. Cafodd yr argraffiad cyntaf ei gyhoeddi ar y 7fed o Hydref 1567.
Roedd hyn yn chwyldroadol - cyn hyn, dim ond rhannau o’r Beibl oedd ar gael mewn llyfrau gweddi.
Gosododd ei waith gynsail ar gyfer cyfieithu’r Beibl a'r mwyaf diweddar ohonynt i gyd yw beibl.net.
Mae Cymdeithas y Beibl yn cynnal arddangosfa arbennig yn ystod mis Hydref yn Byd Mary Jones y Bala i ddathlu cyfraniad Salesbury.
Yn ôl Christine Daniel, Pennaeth Cymdeithas y Beibl Cymru;
“Bydd yr arddangosfa yn dathlu’r pedwar canmlwyddiant a hanner ers yr argraffiad cyntaf ac yn ein hatgoffa o’r her barhaol i sicrhau fod y Beibl ar gael i bobl yn eu hiaith eu hunain.”
Mae’r galw’n parhau gan fod rhyw 1,600 o ieithoedd ledled y byd yn dal i aros am gyfieithiad o’r Beibl.
Yn yr India er enghraifft, mae 22 o brosiectau cyfieithu sydd angen eich cymorth.
Bydd yr arddangosfa yn adrodd stori bywyd a gwaith Salesbury ond hefyd yn cynnig cyfle, drwy fideo, erthyglau, gweithgareddau ac arddangosfeydd, i glywed straeon gan bobl ledled y byd sydd wedi elwa o gael y Beibl yn eu mamiaith.
Mae Byd Mary Jones ar agor bob dydd o 10yb – 5yh (mynediad olaf am 4yh) hyd at Hydref 29.
Bydd Arddangosfa William Salesbury ar agor o Fedi 30 – Hydref 29. Am ragor o wybodaeth ewch i: bydmaryjonesworld.org.uk
I gefnogi gwaith cyfieithu’r Beibl o amgylch y byd, ewch i (Sylwer: nid yw’r tudalennau canlynol ar gael yn Gymraeg)
Cefnogwch ein gwaith o gyfieithu’r Beibl ledled y byd
Share this: