Skip to main content
Read this in English

Lansio Llyfryn 'Agor Y Gair Gyda Mari'

Author: Bible Society, 12 August 2016

Share this:

Taith Mary Jones i'r Bala yn Ysbrydoli Cyfrol i Ferched

Cafodd cyfrol newydd, wedi ei ysgrifennu gan ferched i ferched, ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni dydd Mercher 3 Awst.

Yn 1800 cerddodd merch 15 mlwydd oed 26 milltir ar draws gwlad o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i chwilio am Feibl Cymraeg. Wedi ei hysbrydoli gan y daith honno, mae cyfrol Agor y Gair gyda Mari yn annog darllenwyr i ddilyn y daith gyda darlleniad bob dydd am 26 o ddyddiau, yn cynrychioli'r 26 milltir o'r daith gyda delweddau trawiadol o’r tirlun lleol ar hyd y ffordd.

Mae 24 o ferched wedi cyfrannu at Agor y Gair gyda Mari i gyd a'r gyfrol yn ffrwyth llafur datblygiad ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl a merched o amrywiaeth eang o eglwysi a sefydliadau yng Nghymru.

Meddai Christine Daniel, Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru ac un o olygyddion y gyfrol:

'Rydym yn hynod o falch o fedru lansio'r gyfrol hon. Roedd Mary Jones yn wraig ifanc arbennig iawn ac yn ysbrydoliaeth i nifer ohonom. Yn y gyfrol hon roeddem am ddathlu ei champ, ei phenderfyniad a'i ffydd a'i ddefnyddio er mwyn helpu merched yn ei bywyd ddydd i ddydd.

Rydym wedi annog ein cyfranwyr i ddefnyddio eu llais eu hunain ac mae'n adlewyrchu merched o bob cwr o Gymru, o bob oed, yn Gymry iaith gyntaf ac yn ddysgwyr.'

Cafodd y gyfrol ei lansio mewn digwyddiad arbennig ym mhabell Cytûn yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016, gyda darlleniadau o'r gyfrol gan rai o'r cyfrannwyr a mwy am hanes Mary Jones ei hun a'i thaith.

Gellir prynu'r gyfrol yn Byd Mary Jones yn Llanycil ger y Bala neu ar lein trwy siop Cymdeithas y Beibl.


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible