Skip to main content

Marwolaeth

Author: Andy Knight, 26 September 2017

Mae’r hen gwpled yn dweud mai ‘Duw biau edau bywyd, a’r hawl i fesur ei hyd’. Rydyn ni i gyd yn cydnabod ein bod ni’n feidrol, ond ychydig iawn iawn o bobl fyddai’n dweud eu bod yn edrych ymlaen at farw.

Mae’n siŵr mai ansicrwydd ynglŷn â’r profiad o farw ydy un o’r prif resymau am hynny. Y duedd naturiol ynon ni i gyd ydy amddiffyn ein hunain a cheisio osgoi marw. Bydden ni’n hoffi meddwl fod gynnon ni flynyddoedd eto o’n blaenau.

Ond bydd raid i ni i gyd wynebu marwolaeth ryw ddydd. Mae’n broses boenus ac araf i rai, ac yn cipio eraill yn gwbl ddisymwth. Mae rhai pobl mewn oed yn rhyw ddisgwyl am flynyddoedd, gan dybio nad ydy eu hawr nhw ymhell, tra mae eraill yn marw’n llawer rhy gynnar yng ngolwg eu teuluoedd a’u ffrindiau. Y gwir ydy fod yn rhaid i ni i gyd ‘groesi’r Iorddonen’ ryw ddydd, ond does dim lle i ofni os ydyn ni’n credu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud.

Dwedodd Iesu,

‘Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd. Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i’n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi. Wedyn dw i’n mynd i ddod yn ôl, a bydda i’n mynd â chi yno gyda mi, a chewch aros yno gyda mi.’ (Ioan 14:1–3)

Roedd Iesu yn siarad gyda’i ddisgyblion am y byd sydd i ddod. Roedden nhw eisiau iddo aros gyda nhw am byth, ond roedd Iesu’n dweud ei fod yn mynd i farw. Roedd wedi dod i’r byd i ddangos y ffordd iddyn nhw, ond roedd yn rhaid iddo fynd yn ôl at ei Dad Nefol. Roedd yn dweud wrthyn nhw ei fod yn mynd i baratoi lle iddyn nhw hefyd, er mwyn iddyn nhw gael bod yn y nefoedd gydag o.  Roedd yn esbonio iddyn nhw mai fo oedd y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd. Roedd yn eu galw i gredu ynddo a’i ddilyn tra oedd ar y ddaear. Roedd yn addo gofalu amdanyn nhw. 

Mae’r Salmydd yn dweud,

‘Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi’ (Salm 23:4).

‘Glyn cysgod angau’ oedd cyfieithiad William Morgan. Wrth i ni groesi i’r byd a ddaw, does dim rhaid i ni, sydd wedi credu’r newyddion da, fod ag ofn. Marwolaeth ydy diwedd y daith ar y ddaear, ond i bawb sy’n credu mae’n ddrws i fywyd newydd. Mae’n wir fod y Beibl yn ein hatgoffa y ‘bydd pob un ohonon ni’n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd’ (2 Corinthiaid 5:10), ond does dim rhaid ofni os ydyn ni’n pwyso ar fraich Iesu – ar ei gariad, ei ras a’i faddeuant.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Arfon Jones
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible