Skip to main content

Gwaith

Author: Bible Society, 10 July 2017

Does ond rhaid cyrraedd ail bennod y Beibl cyn i ni glywed am y Duw sydd yn gweithio (ac yn gorffwys).

”Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith“ Genesis 2:2.

Yn yr un modd pan gafodd Iesu ei geryddu am weithio ar y Saboth dywedodd 

“Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy'r amser, felly dw innau'n gweithio hefyd.” Ioan 5.17.

Mae'r Beibl yn ymddangos yn rhoi urddas i waith ac hyd yn oed cyn y cwymp, rydym yn gweld Duw yn gofalu am ei greadigaeth trwy gwaith.

"Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani.” Genesis 2.15

Mae angen i ni wneud hyn heddiw i fyw, i fwyta ac i aros yn iach. Dywedodd Dafydd wrth Solomon, wrth sôn am y gwaith o adeiladu’r deml,

“Bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi! Paid bod ag ofn na phanicio! Mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda ti. Fydd e ddim yn dy adael di nac yn troi cefn arnat ti nes bydd y gwaith yma i gyd ar deml yr ARGLWYDD wedi'i orffen.” 1 Cronicl 28.21

Os yw gwaith yn rhan o fwriad Duw ar ein cyfer pam yr ydym yn aml yn ei ffeindio mor flinedig, anodd a rhwystredig? A oes gennym yr agwedd at waith a fwriedir gan Dduw?

Ddaeth Iesu ddim i'r ddaear er mwyn cael mwynhau ei statws fel brenin gyda phawb yn gweini arno. Fel arall yn llwyr – llafuriodd yn gyntaf fel saer coed heb ddisgwyl i bobl eraill ei wasanaethu ef ond gwasanaethodd eraill yn gyntaf bob amser. Mathew 20.28.

A ydym ni yn gweithio i wasanaethu ein hunan, neu i geisio statws, neu a yw ein gwaith yn ffordd i wasanaethu Duw ac eraill? Ai ein gwaith yw ein hunaniaeth a’n hystyr mewn bywyd? Neu a yw ein hunaniaeth yng ngwaith Iesu ar y Groes, yr Un a gynigiodd rhodd o ras i ni, ac nid ein gwaith ein hunain? A ydym yn dilyn patrwm Duw o waith a gorffwys?
 

“Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol. Byddwch chi'n derbyn eich gwobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy'r meistr dych chi'n ei wasanaethu go iawn. Colosiaid 3:23-24.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Julie Edwards
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible