Skip to main content

Ffrwythau’r Ysbryd Glân: 8 :Addfwynder

Author: Bible Society, 25 April 2017

Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear. Mat 5.5
Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn. Mat 21.5

Roedd Iesu yn gwerthfawrogi addfwynder. Dangosodd ei addfwynder trwy olchi traed ei ddisgyblion a thrwy fynd i mewn i Jerwsalem ar gefn asen. Yn fwy na hynny, fe ‘ddewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas’ (Philipiaid 2.7)

Trwy waith yr Ysbryd Glân yn ein bywydau, rydym ni’n dod i adnabod Duw fel Tad ac iachawdwr. Mae ein hyder ni ynddo fo a gwaith ei Fab Iesu ar y groes.  Does dim rhaid i ni fod yn groch neu’n gras er mwyn amddiffyn ein hunain rhag annhegwch neu anghyfiawnder. Does dim rhaid brwydro dros ein hanghenion. Fel Cristnogion  fe allwn ni fod yn fwyn;  gallwn ddibynnu ar gryfder Duw i’n gwarchod. Ffrwyth yr Ysbryd Glân ydi ein hymateb addfwyn i sefyllfaoedd felly.

Sut fyddwch chi’n ‘Byw y Beibl’ yr wythnos yma? Beth am:

Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi. Dewch gyda mi o dan fy iau, Ref er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i'n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys. Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod hiau trwm ar bobl

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible