Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Chwe mis i mewn i'm beichiogrwydd, cefais fy hun yn cael y babi. Nid oedd hyn yn fy nghynllun. Cefais gyneclampsia. Roedd fy mywyd mewn perygl. Felly hefyd y babi. Roedd gen i ofn na fyddwn yn goroesi ac na fyddai fy mhlentyn yn goroesi.

‘Roedd pawb yn gweddïo. Rhoddodd rhywun Salm 139 i mi ei ddarllen. Mae'n sôn am Dduw yn ein hadnabod cyn ein geni, pa mor agos y mae Duw yn ein hadnabod. Cymerais hynny i mi fy hun a'r babi. Roeddwn i'n ei hadnabod, ond yna sylweddolais fod Duw yn ei hadnabod.

‘Roedd hi'n pwyso 1 pwys 13 owns pan gafodd ei geni. Bu mewn crud cynnal am saith wythnos, a daeth adref ar ocsigen. Cafodd ei geni ym mis Ionawr a daeth adref ym mis Awst.

‘Roeddwn i'n darllen Salm 139 bob dydd. Roedd yn rhaid i mi ei ddarllen oherwydd nid oedd yr hyn yr oeddwn yn teimlo yn debyg i hynny o gwbl. Roedd yn rhaid i mi gadw fy llygaid ar Dduw. Roeddwn i'n teimlo'n anobeithiol, ac wedi fy nhrin yn wael. Ond roeddwn i'n teimlo bod Duw yn dweud, “Ymlonydda”.

‘Aeth y Salm â mi trwy fy mywyd, fy nghyfarfyddiadau â Duw a'r ffaith bod Duw yn adnabod fy merch cyn iddi gael ei geni. Tra roedd pawb arall yn rhedeg o gwmpas, fe ddaeth â fi i lawr at yr hyn roeddwn i'n ei wybod, at Dduw. Wrth edrych yn ôl, gwnaeth wahaniaeth mawr.

‘Mae fy merch yn chwech oed nawr. Mae hi'n dda iawn. Rwy'n dweud wrthi ei bod hi'n uwch-arwr.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible