Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
‘Salm 23 yw'r hyn rydw i bob amser yn mynd iddo ar droeon yr yrfa. Dwi bob amser yn dal fy ngafael ynddi. Arferai fy mab gael llawer o drafferth gyda'r heddlu ac roedd mewn ac allan o drafferth. Lladrata, pethau gwirion, torri i mewn i geir. Roedd yn bryder i mi.
‘Tynnais gysur o Salm 23. Byddwn yn codi yn y bore ac yn gweddïo’n barhaus. Roedd yn dweud wrthyf fod gen i'r Arglwydd i ddal gafael arno. Teimlais fod gobaith i'm mab oherwydd hynny.
‘Gwelais eraill a oedd i mewn ac allan o'r carchar trwy'r amser. Doedd ganddyn nhw ddim dyfodol. Mae rhai yn dal yr un fath. Pe na bai gan fy mab fi, yn dibynnu ar Dduw, gallai fod fel un o'r bechgyn hynny heddiw.
‘Nawr, mae'n gweithio ym maes arlwyo. Mae ganddo deulu - 11 o blant - ac mae'n daid. Mae hynny oherwydd Duw.’
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]