Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Yn fuan ar ôl y cloi, ysgrifennais gân yn seiliedig ar 2 Corinthiaid 1:3-4. Mae'n ymwneud â chysur. Roeddwn i'n gwybod pa mor ddychrynllyd ac ynysig y byddai hi i bawb. Roeddwn i am ddal y sefyllfa hon, a oedd yn ofnadwy, yn dal i fod yn ofnadwy, a dweud rhywbeth positif. Hynny oedd bod cysur Duw yno i bob un ohonom.

'Ni fyddaf yn honni fy mod yn gwybod y Beibl ar fy nghof, ond roeddwn yn ymwybodol o'r adnod hon, sy'n dweud, “Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch. Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder.” Fe'i dewisais oherwydd ei fod yn sôn am gysur Duw yn ein grymuso i allu cysuro ein gilydd. Roedd yn ymddangos i mi fod cysur yn bwysig iawn.

'Fe wnes i ei ysgrifennu mewn cwpl o ddiwrnodau. Yna canodd fy ngwraig hi a chwaraeais y gitâr. Fe wnaethon ni ei rannu gyda thua 50 o bobl yn lleol. Mae pobl wedi dweud eu bod wedi ei chael yn ddefnyddiol ac yn gysur.

'Roedd ysgrifennu'r gân yn gysur i mi. Roedd yna ragolygon o ddyddiau hir, gwag ar y gorwel. Rhoddodd hynny ffocws.

'Rydw i wedi bod yn ysgrifennu caneuon ers blynyddoedd, ond caneuon addoli ers tua 2005. Rydw i wedi dod o hyd i gysur a ffocws trwy gerddoriaeth dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae addoli yn ganolog i fywydau fy ngwraig a minnau. Bob wythnos rwy'n mynd at y Beibl ac yn gweld pa fynegiant cerddorol y gallaf ei roi i'r themâu ar gyfer yr wythnos honno. Mae fel ymweld â Duw, ac rydw i'n cymryd cysur o hynny.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible