Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Yn ystod y pandemig, rwyf wedi bod yn darllen y Beibl bob dydd gyda fy nai dros y ffôn. Mae'n byw ar ei ben ei hun ac yn weithiwr allweddol, felly roeddwn i'n gwybod y byddai hwn yn amser heriol iddo.

‘Dechreuon ni yn y dechrau, yn Genesis, a nawr rydyn ni ar Josua. Gallwn ddarllen rhwng un a thair pennod y dydd. Byddwn fel arfer yn darllen yn y bore, am oddeutu awr. Rydyn ni'n cymryd adnodau bob yn ail, ond os oes rhai geiriau anodd yna rwy’n darllen y rheini. Dros ginio rydyn ni'n siarad am yr hyn rydyn ni wedi'i ddarllen. Nid yw ond 23 a chredaf ei fod yn  wirioneddol ei helpu i ganolbwyntio ar Dduw.

‘Mae ME a ffibromyalgia arna i, ac mae gen i ofalwyr sy’n dod i mewn i fy helpu bob dydd. Yn aml does gen i ddim egni. Ond, roeddwn i'n teimlo bod Duw wedi rhoi hyn ar fy nghalon. Weithiau, pan rydyn ni wedi gorffen darllen, rydw i mor flinedig nes fy mod i'n teimlo y gallwn gropian ar draws y llawr, ond mae wedi bod yn gymaint o fraint. Mae wedi bod mor galonogol iddo ef ac i mi.

‘Rydyn ni wedi darllen llawer, ond mae Deuteronomium 4:32 yn aros yn fy meddwl. Mae'n dweud, “Ystyria'r dyddiau gynt, cyn dy amser di, o'r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, a chwilia'r nefoedd o un cwr i'r llall. A fu peth mor fawr â hyn, neu a glywyd am beth tebyg?”

‘Fe wnaeth hynny fy atgoffa o bwysigrwydd dirnadaeth. Mae fy nai yn ifanc, ac ar gyfryngau cymdeithasol. Rwy'n siŵr bod yna lawer o bethau da yno, ond nid yw'n hawdd bod yn graff. Fe wnaethon ni siarad amdano, ar ôl i ni ddarllen hwn. Fe agorodd ei lygaid mewn gwirionedd a sylweddolodd nad yw rhai pethau wedi bod o gymorth.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible