Dilynwch olion traed dilynwyr Iesu wrth iddynt deithio o Jerwsalem i Emmaus a siaradwch â rhywun sy'n rhoi'r syndod mwyaf oll iddyn nhw i gyd!
Mi fydd y fideo a llyfryn stori’r Pasg newydd sbon yma i blant yn eich helpu i ddarganfod rhywbeth mawr sy'n werth ei rannu.
Ysgrifennwyd Stori Syndod y Syndodau gan Dai Woolridge a'i addasu i'r Gymraeg gan Elinor Wyn Reynolds.
Dilynwch Stori Syndod y Syndodau Iesu ar y ffordd i Emmaus gyda'r trywydd antur yma. Dyma i chi helfa’r Pasg tra gwahanol! Gosodwch y lluniau a'r cwestiynau fel y mynnwch i greu profiad trywydd eich hunain, yna rhowch fap taflen ateb i bob cyfranogwr er mwyn cwblhau'r trywydd.
Yr holl luniau a chwestiynau sydd eu hangen arnoch i alluogi pobl i gymryd rhan yn eich Trywydd Antur Syndod y Syndodau.
Taflen ateb mewn arddull map o Jerwsalem i Emmaus i gyfranogwyr ei gwblhau wrth fynd. Argraffwch bob-ochr cyn ei blygu mewn hanner i greu llyfryn.