Dilynwch olion traed dilynwyr Iesu wrth iddynt deithio o Jerwsalem i Emmaus a siaradwch â rhywun sy'n rhoi'r syndod mwyaf iddyn nhw i gyd!
Bydd lluniau hyfryd yr artist Emma Skerratt ac arddull farddol Dai Woolridge yn rhoi pleser i rai o bob oed ond mae’r fersiwn hon o stori bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn arbennig o addas ar gyfer 4-7 oed.
Mae adnoddau sy’n cyd-fynd am ddim yn cynnwys fersiwn fer wedi’i animeiddio o'r stori yn ogystal â thrywydd y Pasg.