No themes applied yet
1Cân serch orau Solomon.
Y gerdd gyntaf – Cariad
Y ferch wrth ei chariad:1:1 Y ferch wrth ei chariad Dydyʼr testun Hebraeg ddim yn dweud pwy syʼn siarad. Maeʼr cyfieithiad hwn yn nodi pwy syʼn debygol o fod yn siarad ar sail cenedl geiriau. (Maeʼn weddol amlwg yn yr Hebraeg pwy syʼn siarad gan fod yr iaith Hebraeg yn defnyddio ffurfiau gwrywaidd a benywaidd gwahanol i enwau, berfau, ansoddeiriau a rhagenwau. Er hynny, mae cyfieithiadau gwahanol yn amrywio rhywfaint yn eu barn).
2Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd!
Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,
3ac arogl dy bersawr mor hyfryd.
Rwyt fel yr olew persawrus gorau –
does dim syndod fod merched ifanc
yn dy garu di.
4Tyrd, cymer fi gyda ti;
gad i ni frysio! Fy mrenin,
dos â fi i dy ystafell wely.
Gad i ni fwynhau a chael pleser;
mae profi gwefr dy gyffyrddiad
yn well na gwin.1:4 mae profi … gwin Maeʼr Hebraeg yr un fath âʼr ail linell yn adn. 2. Maeʼr cyfieithiad yn wahanol i geisio cyfleu ystyr lawn y darlun yn y gwreiddiol.
Maeʼn ddigon teg fod merched ifanc
yn dy garu di.
Y ferch wrth ferched Jerwsalem:
5Ferched Jerwsalem,
mae fy nghroen yn ddu ond dw iʼn hardd –
yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar,1:5 pobl Cedar Llwyth nomadig oʼr dwyrain, ac maeʼn debyg eu bod yn gwneud eu pebyll o groen geifr duon (gw. Jeremeia 49:28; Eseia 60:7).
a hardd fel llenni palas Solomon.
6Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu
aʼr haul wedi rhoi croen tywyll i mi.
Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi,
a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd;
ond methais ofalu amdana i fy hun.
Y ferch wrth ei chariad:
7Fy nghariad, dywed wrtho i,
Ble rwyt tiʼn arwain dy ddefaid?
Ble fyddan nhwʼn gorffwys ganol dydd?
Dwed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl
a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
Merched Jerwsalem wrth y ferch:
8Oʼr harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod,
dilyn olion traed y praidd
a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.
Y cariad wrth y ferch:
9Fʼanwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf
syʼn tynnu cerbydauʼr Pharo.
10Mae tlysau ar dy fochau hardd,
a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.
11Dw i am roi tlysau aur i ti,
wediʼu haddurno ag arian.
Y ferch ifanc:
12Tra oedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely,
roedd arogl fy mhersawr yn llenwiʼr awyr.
13Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd
yn gorwedd drwyʼr nos rhwng fy mronnau.
14Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna
o winllannoedd ffrwythlon En-gedi.1:14 En-gedi Gwerddon iʼr gorllewin oʼr Môr Marw.
Y cariad wrth y ferch ifanc:
15O, rwyt mor hardd, fʼanwylyd!
O, rwyt mor hardd!
Mae dy lygaid fel colomennod.
Y ferch wrth ei chariad:
16O, rwyt mor olygus, fy nghariad –
ac mor hyfryd!
Maeʼr gwyrddni fel canopi oʼn cwmpas
yn gorchuddioʼn gwely.
17Mae canghennauʼr coed cedrwydd
fel trawstiau yn y to uwch ein pen;
aʼr coed pinwydd fel paneli.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015