No themes applied yet
Cysur pan mae gofid
Iʼr arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar yr alaw “Cyffes”.
1Dw iʼn gweiddiʼn uchel ar Dduw,
yn gweiddiʼn uchel ar iddo wrando arna i.
2Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD;
dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi drwyʼr nos,
ond ches i ddim cysur.
3Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw,
dw i wedi bod yn myfyrio arno – ond yn anobeithio.
Saib
4Ti sydd wedi fy nghadw iʼn effro;
dw i mor boenus, wn i ddim beth iʼw ddweud.
5Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau,
flynyddoedd lawer yn ôl.
6Cofioʼr gân roeddwn iʼn arfer ei chanu.
Meddwl drwyʼr nos am y peth, a chwilio am ateb.
7“Ydyʼr ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth?
Ydy eʼn mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?
8Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr?
Ydyʼr addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?
9Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd?
Ydy ei ddig yn gryfach naʼi dosturi?”
Saib
10“Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:
fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”
11Dw iʼn mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD –
ydw, dw iʼn cofioʼr pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!
12Dw iʼn mynd i gofio am bopeth wnest ti,
a myfyrio ar y cwbl.
13O Dduw, mae dy ffyrdd diʼn gwbl unigryw!
Oes yna dduw tebyg iʼn Duw ni?
14Na! Ti ydyʼr Duw syʼn gwneud pethau anhygoel!
Ti wedi dangos dy nerth iʼr bobloedd i gyd.
15Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref,
sef disgynyddion Jacob a Joseff.
Saib
16Dymaʼr dyfroedd yn dy weld di, O Dduw,
dymaʼr dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu.
Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!
17Roedd y cymylauʼn tywallt y glaw,
yr awyr yn taranu,
a dy saethau yn fflachio ym mhobman.
18Roedd dy lais iʼw glywed yn taranu yn y storm;
dy fellt yn goleuoʼr byd,
aʼr ddaear yn crynu drwyddi.
19Agoraist ffordd drwyʼr môr;
cerddaist drwyʼr dyfroedd cryfion,
er bod neb yn gweld olion dy draed.
20Dyma tiʼn arwain dy bobl fel praidd
dan ofal Moses ac Aaron.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015