No themes applied yet
Gweddi un syʼn trystio Duw
Iʼr arweinydd cerdd: ar yr alaw “Colomen ar Goed Derw Pell”. Wediʼi hysgrifennu gan Dafydd ar ôl iddo gael ei ddal gan y Philistiaid yn Gath.56:0 1 Samuel 21
1Dangos drugaredd ata i, O Dduw,
dw iʼn cael fy erlid!
Maeʼr gelynion yn ymosod arna i drwyʼr amser.
2Maen nhwʼn fy ngwylio i ac yn fy erlid iʼn ddi-baid.
Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn!
O Dduw, y Goruchaf.
3Pan mae gen i ofn, dw iʼn dy drystio di –
4Duw, yr un dw iʼn gwybod syʼn cadw ei air!
Dw iʼn trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
5Maen nhwʼn twistio fy ngeiriau
a dim ond eisiau gwneud niwed i mi.
6Maen nhwʼn dod at ei gilydd i ysbïo arna i.
Maen nhwʼn gwylio pob symudiad,
ac yn edrych am gyfle iʼm lladd.
7Wyt tiʼn mynd i adael iddyn nhw lwyddo?
Bwrw nhw i lawr yn dy lid, O Dduw!
8Tiʼn cadw cofnod bob tro dw iʼn ochneidio.
Tiʼn casglu fy nagrau mewn costrel.
Maeʼr cwbl wediʼi ysgrifennu yn dy lyfr.
9Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda iʼn galw arnat ti.
Achos dw iʼn gwybod un peth –
mae Duw ar fy ochr i.
10Duw, yr un dw iʼn gwybod syʼn cadw ei air!
Yr ARGLWYDD – dw iʼn gwybod ei fod yn cadw ei air!
11Dw iʼn trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
12Dw iʼn mynd i gadw fy addewidion, O Dduw,
a chyflwyno offrymau diolch i ti.
13Ti wedi achub fy mywyd i,
a chadw fy nhraed rhag llithro.
Dw iʼn gallu byw i ti, O Dduw,
a mwynhau goleuni bywyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015