No themes applied yet
Gweddi am help
Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, arnat ti dw iʼn galw!
Paid diystyru fi – ti ydy fy nghraig i.
Os wnei di ddim ateb
bydda iʼn siŵr o ddisgyn iʼr bedd!
2Gwranda arna iʼn galw –
dw iʼn erfyn am drugaredd!
Dw iʼn estyn fy nwylo
at dy deml sanctaidd.
3Paid llusgo fi i ffwrdd gydaʼr rhai drwg,
y bobl hynny syʼn gwneud dim byd ond drwg.
Maen nhwʼn dweud pethau syʼn swnioʼn garedig
ond does dim byd ond malais yn y galon.
4Tala nôl iddyn nhw am wneud y fath beth!
Rho iddyn nhw beth maen nhwʼn ei haeddu!
Cosba nhw!
5Dŷn nhw ddim yn deall
y ffordd maeʼr ARGLWYDD yn gweithio.
Bydd eʼn eu bwrw nhw i lawr,
a fyddan nhw byth yn codi eto!
6Bendith ar yr ARGLWYDD!
Ydy, mae e wedi gwrando arna iʼn erfyn am drugaredd!
7Maeʼr ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi;
mae eʼn darian iʼm hamddiffyn.
Dw iʼn ei drystio feʼn llwyr.
Daeth iʼm helpu, a dw i wrth fy modd!
Felly dw iʼn mynd i ganu mawl iddo!
8Maeʼr ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.
Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
9Achub dy bobl!
Bendithia dy bobl sbesial!
Gofala amdanyn nhw fel bugail
aʼu cario yn dy freichiau bob amser!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015