No themes applied yet
Y brenin yn dathlu gofal Duw
Iʼr arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, maeʼr brenin yn llawen
am dy fod tiʼn ei nerthu;
maeʼn gorfoledduʼn fawr
am dy fod yn rhoiʼr fuddugoliaeth iddo!
2Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau,
wnest ti ddim gwrthod beth roedd eʼn gofyn amdano.
Saib
3Tiʼn ei fendithio â phopeth da,
ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.
4Gofynnodd i ti ei gadwʼn fyw, a dyma tiʼn rhoi bywyd iddo –
bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.
5Maeʼn enwog am dy fod wedi rhoiʼr fuddugoliaeth iddo.
Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.
6Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,
aʼr boddhad aʼr llawenydd o fod yn dy gwmni.
7Ydy, maeʼr brenin yn trystioʼr ARGLWYDD.
Maeʼn gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,
felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.
8Byddiʼn llwyddo i ddal dy holl elynion;
byddiʼn rhy gryf iʼr rhai syʼn dy gasáu.
9Pan fyddiʼn dod iʼr golwg
byddiʼn eu llosgi nhw mewn ffwrnais.
Maeʼr ARGLWYDD yn ddig,
a bydd yn eu dinistrio nhw;
bydd tân yn eu llosgi nhw.
10Byddiʼn cael gwared âʼu disgynyddion oʼr ddaear;
byddan nhwʼn diflannu o blith y ddynoliaeth.
11Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti;
roedd ganddyn nhw gynllun
ond allen nhw byth lwyddo.
12Tiʼn gwneud iddyn nhw droi yn ôl
drwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw.
13Cod, ARGLWYDD, dangos dy nerth!
Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015