No themes applied yet
Moliʼr Duw sydd mor gryf
Haleliwia!
1Mae mor dda canu mawl i Dduw!
Maeʼn beth hyfryd rhoi iddoʼr mawl maeʼn ei haeddu.
2Maeʼr ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem,
ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion.
3Mae eʼn iacháuʼr rhai sydd wedi torri eu calonnau,
ac yn rhwymoʼu briwiau.
4Mae e wedi cyfriʼr sêr i gyd,
a rhoi enw i bob un ohonyn nhw.
5Maeʼn Meistr ni mor fawr, ac mor gryf!
Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw!
6Maeʼr ARGLWYDD yn rhoi hyder iʼr rhai syʼn cael eu gorthrymu,
ond yn bwrwʼr rhai drwg iʼr llawr.
7Canwch gân o fawl iʼr ARGLWYDD,
a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach.
8Maeʼn gorchuddioʼr awyr gyda chymylau,
ac yn rhoi glaw iʼr ddaear.
Maeʼn gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd,
9yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt,
ac i gywion y gigfran pan maen nhwʼn galw.
10Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno,
a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu.
11Y bobl syʼn ei barchu syʼn plesioʼr ARGLWYDD;
y rhai hynny syʼn rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon.
12O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD!
O Seion, mola dy Dduw!
13Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf,
ac wedi bendithio dy blant o dy fewn.
14Maeʼn gwneud dy dir yn ddiogel,
ac yn rhoi digonedd oʼr ŷd gorau i ti.
15Maeʼn anfon ei orchymyn drwyʼr ddaear,
ac maeʼn cael ei wneud ar unwaith.
16Maeʼn anfon eira fel gwlân,
yn gwasgaru barrug fel lludw,
17ac yn taflu cenllysg fel briwsion.
Pwy syʼn gallu goddef yr oerni maeʼn ei anfon?
18Wedyn maeʼn gorchymyn iʼr cwbl feirioli –
maeʼn anadlu arno ac maeʼr dŵr yn llifo.
19Mae wedi rhoi ei neges i Jacob,
ei ddeddfau aʼi ganllawiau i bobl Israel.
20Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall;
dŷn nhwʼn gwybod dim am ei reolau.
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015