No themes applied yet
Y fendith o fod yn ufudd iʼr ARGLWYDD
Cân yr orymdaith.
1Maeʼr un syʼn parchuʼr ARGLWYDD
ac yn gwneud beth mae e eisiau,
wediʼi fendithioʼn fawr.
2Byddiʼn bwyta beth fuost tiʼn
gweithio mor galed iʼw dyfu.
Byddiʼn cael dy fendithio, a byddiʼn llwyddo!
3Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ.
Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrdd
fel blagur ar goeden olewydd.
4Dyna i ti sut maeʼr dyn syʼn parchuʼr ARGLWYDD
yn cael ei fendithio!
5Boed iʼr ARGLWYDD dy fendithio di o Seion!
Cei weld Jerwsalem yn llwyddo
am weddill dy fywyd,
6A byddiʼn cael byw i weld dy wyrion.
Heddwch i Israel!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015