No themes applied yet
LLYFR UN
(Salmau 1–41)
Bendith Duw
1Maeʼr un syʼn gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg
wediʼi fendithioʼn fawr;
yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,
nac yn eistedd gydaʼr rhai
syʼn gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;
2yr un sydd wrth ei fodd
yn gwneud beth maeʼr ARGLWYDD eisiau,
ac yn myfyrio ar y pethau maeʼn eu dysgu1:2 y pethau maeʼn eu dysgu Hebraeg, Torâ, sef ‘y Gyfraith’, neuʼr cyfarwyddiadau roddodd Duw i Moses. ddydd a nos.
3Bydd fel coeden wediʼi phlannu wrth ffrydiau o ddŵr,
yn dwyn ffrwyth yn ei thymor,
aʼi dail byth yn gwywo.1:3 Jeremeia 17:7,8
Beth bynnag maeʼn ei wneud, bydd yn llwyddo.
4Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg!
Byddan nhw fel us
yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.
5Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn.
Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll
gydaʼr dyrfa o rai cyfiawn.
6Maeʼr ARGLWYDD yn gofalu am y rhai syʼn ei ddilyn,
ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015