No themes applied yet
Bod yn ostyngedig, fel Iesu
1Os ydy perthyn iʼr Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydyʼr Ysbryd yn eich clymu chiʼn un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig 2– yna gwnewch fiʼn wirioneddol hapus drwy rannuʼr un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas. 3Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chiʼch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chiʼn well na phobl eraill. 4Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chiʼch hunain. 5Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu:
6Roedd eʼn rhannuʼr un natur â Duw,
heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw;
7ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill,2:7 roi ei hun … eraill: Groeg, “gwagio ei hun”.
a gwneud ei hun yn gaethwas,
a dod aton ni fel person dynol –
roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
8Yna diraddio ei hun fwy fyth,
a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw –
ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes.
9Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu iʼr safle uchaf;
a rhoiʼr enw pwysica un iddo!
10Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu –
pawb yn y nefoedd,
ar y ddaear,
a than y ddaear;
11a bydd pawb yn cydnabod 2:10,11 adlais o Eseia 45:23 (LXX)
mai Iesu Grist ydyʼr Arglwydd,
ac yn rhoi clod i Dduw y Tad.
Disgleirio fel sêr
12Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chiʼn ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, maeʼn bwysicach fyth eich bod chiʼn ufudd pan dw iʼn absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned. 13Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creuʼr awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth syʼn ei blesio fe.
14Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo, 15er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig.2:15 adlais o Deuteronomium 32:5 Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr 16wrth i chi rannuʼr neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda iʼn gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda iʼn gwybod na fuodd yr holl redeg aʼr gwaith caled yn wastraff amser. 17Maeʼn bosib iawn y bydda iʼn marw fel merthyr, aʼm gwaed iʼn cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chiʼn ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw iʼn hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi. 18A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi.
Timotheus ac Epaffroditws
19Dw iʼn gobeithio anfon Timotheus atoch chiʼn fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i. 20Does gen i neb tebyg i Timotheus. Maeʼn teimloʼn union fel dw iʼn teimlo – mae ganddoʼr fath gonsýrn drosoch chi. 21Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth syʼn bwysig i Iesu Grist. 22Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad. 23Felly dw iʼn gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth syʼn mynd i ddigwydd i mi. 24Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod iʼch gweld chiʼn fuan!
25Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi – brawd ffyddlon arall syʼn gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e iʼm helpu i pan oeddwn i angen help. 26Mae wedi bod yn hiraethu amdanoch chi, ac yn poeniʼn fawr eich bod wedi clywed ei fod wedi bod yn sâl. 27Maeʼn wir, roedd eʼn wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duwʼn garedig ato – ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch. 28Dyna pam dw i mor awyddus iʼw anfon yn ôl atoch chi. Dw iʼn gwybod y byddwch chi mor llawen oʼi weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint. 29Felly rhowch groeso brwd iddo. Dylid anrhydeddu pobl debyg iddo, 30achos bu bron iddo farw wrth wasanaethuʼr Meseia. Mentrodd ei fywyd er mwyn fy helpu i, a gwneud ar eich rhan chi beth roeddech chiʼn methu ei wneud eich hunain.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015