No themes applied yet
Concroʼr Canaaneaid
1Dyma frenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef, yn clywed fod Israel yn dod ar y ffordd i Atharîm. Felly dyma feʼn ymosod arnyn nhw, ac yn cymryd rhai o bobl Israel yn gaeth. 2Dyma bobl Israel yn gwneud adduned iʼr ARGLWYDD, “Os gwnei diʼn helpu ni i goncroʼr bobl yma, gwnawn ni ddinistrioʼu trefi nhwʼn llwyr.”21:2 ddinistrioʼu … yn llwyr Y syniad yma oedd nad oedden nhwʼn cadw dim, nac yn elwa o gwbl. 3Dymaʼr ARGLWYDD yn ateb eu gweddi nhw, a dyma nhwʼn concroʼr Canaaneaid a dinistrioʼu trefi nhwʼn llwyr. A dyma nhwʼn galwʼr lle yn Horma (sef ‘Dinistr’).
Y neidr bres
4Dyma nhwʼn teithio o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch,21:4 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”. er mwyn mynd o gwmpas tir Edom. Ond ar y ffordd dyma nhwʼn dechrau teimloʼn flin a diamynedd. 5A dyma nhwʼn dechrau cwyno eto, a dweud pethau yn erbyn Duw a Moses. “Pam dych chi wedi dod â ni allan oʼr Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does dim bwyd yma, na dŵr, a dŷn niʼn casáuʼr stwff diwerth21:5 cyfeiriad at y manna (gw. 11:6-9 ac Exodus 16). yma!”
6Felly dymaʼr ARGLWYDD yn anfon nadroedd gwenwynig iʼw canol nhw. Cafodd lot o bobl eu brathu, a buon nhw farw. 7A dymaʼr bobl yn dod at Moses a dweud, “Dŷn ni wedi pechu drwy ddweud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di. Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD yn cymryd y nadroedd yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gweddïo dros y bobl. 8A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Gwna ddelw o neidr, aʼi chodi ar bolyn. Wedyn, pan fydd rhywun sydd wediʼi frathu yn edrych arni, bydd yn cael byw.” 9A dyma Moses yn gwneud neidr bres aʼi chodi ar bolyn. Wedyn os oedd neidr yn brathu rhywun, pan fyddaiʼr person hwnnwʼn edrych ar y neidr bres, byddaiʼn cael byw.
O Fynydd Hor i Ddyffryn Moab
10Dyma bobl Israel yn cychwyn yn eu blaenau eto, ac yn gwersylla yn Oboth. 11Yna gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm yn yr anialwch, iʼr dwyrain o Moab. 12Yna mynd yn eu blaenau eto a gwersylla yn Wadi Sered. 13Wedyn mynd yn eu blaenau a gwersylla yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch syʼn ymestyn oʼr ardaloedd ble maeʼr Amoriaid yn byw. Mae Arnon ar ffin Moab, yn y canol rhwng Moab aʼr Amoriaid. 14Mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn cyfeirio at y lle fel yma:
“Tref Waheb yn Swffa, a chymoedd Arnon,
15a llethrauʼr ceunentydd syʼn ymestyn i Ar,
ar y ffin gyda Moab.”
16Teithio wedyn i Beër (sef ‘Y Ffynnon’), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casglaʼr bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.” 17Yna dyma bobl Israel yn canuʼr gân yma,
“Ffrydia ffynnon! Canwch iddi!
18Ffynnon agorodd tywysogion,
wediʼi chloddio gyda theyrnwialennau
a ffyn yr arweinwyr.”
A dyma nhwʼn teithio oʼr anialwch i Mattana. 19Yna ymlaen i Nachaliel, yna Bamoth, 20ac ynaʼr dyffryn ar dir Moab, lle mae copa Pisga21:20 Pisga Copa uchaf Mynyddoedd Afarîm yn Moab. yn edrych dros yr anialwch.
Ennill brwydrau yn erbyn Sihon ac Og
(Deuteronomium 2:26–3:11)
21Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo: 22“Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn niʼn cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesiʼr ffin yr ochr arall.” 23Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch. 24Ond Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma nhwʼn cymryd eu tir oddi arnyn nhw, o Ddyffryn Arnon i afon Jabboc, aʼr holl ffordd at ffin yr Ammoniaid. Roedd y ffin honno wediʼi hamddiffyn, ac yn gwbl ddiogel. 25Dyma Israel yn concro trefiʼr Amoriaid i gyd, a setlo ynddyn nhw, gan gynnwys dinas Cheshbon ei hun aʼr pentrefi oʼi chwmpas. 26Cheshbon oedd dinas Sihon, brenin yr Amoriaid. Ac roedd Sihon wedi concro brenin Moab a chymryd ei dir oddi arno, yr holl ffordd at afon Arnon. 27Dyna pam maeʼr baledwyr yn dweud,
“Dewch i Cheshbon, dinas Sihon,
iʼw hadfer aʼi hailadeiladu.
28Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon –
fflamau o dref y Brenin Sihon.
Mae wedi llosgi Ar yn Moab
ac arweinwyr ucheldir Arnon.
29Mae hi ar ben arnat ti, Moab!
Dych chi bobl syʼn addoli Chemosh wediʼch difa.
Mae eich meibion yn ffoaduriaid,
aʼch merched wediʼu cymryd yn gaethion,
gan Sihon, brenin yr Amoriaid.
30Dŷn ni wediʼu difa nhwʼn llwyr
o Cheshbon yr holl ffordd i Dibon.
Dŷn ni wediʼu taro nhw i lawr
yr holl ffordd i Noffa a Medeba.”
31Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid. 32Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhwʼn dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno.
33Wedyn dyma nhwʼn troi iʼr gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og, brenin Bashan yn dod âʼi fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei. 34Ond dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod âʼi ofn. Dw iʼn mynd i roi Og aʼi fyddin aʼi dir i gyd i ti. Byddiʼn gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.” 35Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og aʼi feibion aʼi fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015