No themes applied yet
Lludwʼr Heffer Goch
1Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2“A dyma reol arall maeʼr ARGLWYDD yn gorchymyn ei chadw: ‘Dwed wrth bobl Israel am ddod â heffer goch sydd â dim byd oʼi le arni – anifail heb nam corfforol ac sydd erioed wedi gweithio gyda iau. 3Rhaid rhoiʼr heffer i Eleasar yr offeiriad, a bydd yn cael ei chymryd allan oʼr gwersyll aʼi lladd oʼi flaen e. 4Yna mae Eleasar i gymryd peth o waed yr heffer, aʼi daenellu gydaʼi fys saith gwaith i gyfeiriad pabell presenoldeb Duw. 5Wedyn maeʼr heffer i gael ei llosgi oʼi flaen – y croen, cnawd, gwaed, aʼr coluddion i gyd. 6Yna rhaid iʼr offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch aʼu taflu nhw iʼr tân lle maeʼr heffer yn llosgi. 7Wedyn rhaid iʼr offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn iʼr gwersyll. Ond bydd eʼn dal yn aflan am weddill y dydd. 8A rhaid iʼr dyn syʼn llosgiʼr heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.
9“‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, aʼi osod mewn lle syʼn lân yn seremonïol tu allan iʼr gwersyll. Maeʼr lludw iʼw gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Maeʼr seremoni yma ar gyfer symud pechodau. 10Wedyn, rhaid iʼr un wnaeth gasgluʼr lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel aʼr mewnfudwyr syʼn byw gyda nhw.
Cyffwrdd corff marw
11“‘Bydd unrhyw un syʼn cyffwrdd corff marw yn aflan am saith diwrnod. 12Rhaid iʼr person hwnnw fynd drwyʼr ddefod o buroʼi hun â dŵr ar y trydydd diwrnod aʼr seithfed diwrnod, ac wedyn bydd yn lân. Os nad ydy eʼn gwneud hynny, bydd yn aros yn aflan. 13Os ydy rhywun yn cyffwrdd corff marw a ddim yn puroʼi hun, maeʼr person hwnnw yn llygru Tabernacl yr ARGLWYDD. Bydd yn cael ei dorri allan o Israel am fod dŵr y puro ddim wedi cael ei daenellu arno. Bydd yn aros yn aflan.
14“‘Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn marw mewn pabell: Mae unrhyw un syʼn mynd i mewn iʼr babell, neuʼr rhai oedd yno pan fuodd y person farw, yn aflan am saith diwrnod. 15A bydd unrhyw lestr heb gaead arno yn aflan hefyd.
16“‘Os ydy rhywun allan yn y wlad yn cyffwrdd corff marw – corff rhywun sydd wediʼi ladd neu rywun sydd wedi marwʼn naturiol – neu hyd yn oed yn cyffwrdd asgwrn dynol, neu fedd, bydd yn aflan am saith diwrnod.
17“‘A dyma sut mae puro rhywun syʼn aflan: Rhaid cymryd peth o ludw yr heffer gafodd ei llosgi i symud pechodau, a thywallt dŵr glân croyw drosto mewn llestr. 18Wedyn mae rhywun sydd ddim yn aflan i drochi brigau isop yn y dŵr, ac yna ei daenellu ar y babell aʼr dodrefn i gyd, ac ar y bobl oedd yno ar y pryd. Aʼr un fath gyda rhywun sydd wedi cyffwrdd asgwrn dynol, neu gorff marw neu fedd. 19Rhaid gwneud hyn ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, rhaid iʼr rhai oedd yn aflan olchi eu dillad ac ymolchi mewn dŵr. Byddan nhwʼn aflan am weddill y dydd. 20Ond os ydy rhywun yn aflan a ddim yn puroʼi hun, rhaid iʼr person hwnnw gael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel, am ei fod wedi llygru cysegr yr ARGLWYDD. Gafodd dŵr y puro ddim ei daenellu arno, felly bydd yn dal yn aflan.
21“‘A dyma fydd y drefn bob amser: Rhaid iʼr un syʼn taenellu dŵr y puro olchi ei ddillad. Bydd unrhyw un syʼn cyffwrdd dŵr y puro yn aflan am weddill y dydd. 22Bydd beth bynnag maeʼr person syʼn aflan yn ei gyffwrdd yn aflan hefyd, a bydd unrhyw un syʼn cyffwrdd y peth hwnnw yn aflan am weddill y dydd.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015