No themes applied yet
Y tân yn Tabera
1Dymaʼr bobl yn dechrau cwyno fod bywyd yn galed, ac roedd yr ARGLWYDD yn flin pan glywodd nhw. Roedd e wedi gwylltioʼn lân gyda nhw. A dyma dân yr ARGLWYDD yn dod ac yn dinistrio cyrion y gwersyll. 2Roedd y bobl yn gweiddi ar Moses iʼw helpu nhw. A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dymaʼr tân yn diffodd. 3A dyma feʼn galwʼr lle hwnnw yn Tabera, sef “Lleʼr Llosgi”, am fod tân yr ARGLWYDD wediʼu llosgi nhw yno.
Y bobl yn cwyno eto
4Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crio eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig iʼw fwyta? 5Pan oedden ni yn yr Aifft, roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod iʼw bwyta, a phethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg. 6Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydyʼr manna yma!” 7(Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau. 8Byddaiʼr bobl yn mynd allan iʼw gasglu, ac ynaʼn gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Ynaʼn ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasuʼn debyg i olew olewydd. 9Roedd y mannaʼn disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gydaʼr gwlith.)
10Dyma Moses yn clywed y bobl i gyd yn crio tu allan iʼw pebyll. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, ac roedd Moses yn gweld fod pethauʼn ddrwg. 11A dyma Moses yn gofyn iʼr ARGLWYDD, “Pam wyt tiʼn trin fi mor wael? Beth dw i wediʼi wneud oʼi le? Maeʼr bobl ymaʼn ormod o faich! 12Ydyn nhwʼn blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw iʼr byd? Ac eto tiʼn disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn carioʼi blentyn! Tiʼn disgwyl i mi fynd â nhw iʼr wlad wnest ti addo ei rhoi iʼw hynafiaid. 13Ble dw iʼn mynd i ddod o hyd i gig iʼw roi iʼr bobl yma i gyd? Maen nhwʼn cwynoʼn ddi-stop, ‘Rho gig i ni iʼw fwyta! Dŷn ni eisiau cig!’ 14Maeʼr cwbl yn ormod i mi! Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun. 15Os mai fel yma rwyt ti am fy nhrin i, byddaiʼn well gen i farw! Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr! Alla i gymryd dim mwy!”
16A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Galw saith deg o arweinwyr Israel at ei gilydd – dynion cyfrifol rwyt tiʼn gwybod amdanyn nhw. Tyrd â nhw i sefyll gyda ti o flaen pabell presenoldeb Duw. 17Bydda iʼn dod i lawr i siarad â ti yno. Bydda iʼn cymryd peth oʼr Ysbryd sydd arnat ti, ac yn ei roi arnyn nhw. Wedyn byddan nhwʼn cymryd peth oʼr baich oddi arnat ti – fydd dim rhaid i ti garioʼr cwbl dy hun.
18“A dwed wrth y bobl am fynd drwyʼr ddefod o buroʼu hunain erbyn yfory. Dwed wrthyn nhw, ‘Byddwch chiʼn cael cig iʼw fwyta. Maeʼr ARGLWYDD wediʼch clywed chiʼn crio ac yn cwyno, ac yn dweud, “Pwy syʼn mynd i roi cig i ni iʼw fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft!” Wel, maeʼr ARGLWYDD yn mynd i roi cig i chi iʼw fwyta. 19Dim jest am ddiwrnod neu ddau, na hyd yn oed pump, deg neu ddau ddeg! 20Byddwch chiʼn ei fwyta am fis cyfan. Yn y diwedd, bydd eʼn dod allan oʼch ffroenau chi! Byddwch chi mor sâl, byddwch chiʼn chwydu cig! Am eich bod chi wedi dangos diffyg parch at yr ARGLWYDD sydd gyda chi, a chwyno oʼi flaen, “Pam wnaethon ni adael yr Aifft?”’”
21“Mae yna chwe chan mil o filwyr traed oʼm cwmpas i,” meddai Moses, “a tiʼn dweud dy fod yn mynd i roi digon o gig iddyn nhw ei fwyta am fis cyfan! 22Hyd yn oed petaen niʼn lladd yr anifeiliaid sydd gynnon ni i gyd, fyddai hynny ddim digon! Neuʼn dal yr holl bysgod sydd yn y môr! Fyddai hynnyʼn ddigon?” 23A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Wyt tiʼn meddwl mod iʼn rhy wan? Cei weld ddigon buan a ydw iʼn dweud y gwir!”
24Felly dyma Moses yn mynd allan a dweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. A dyma feʼn casglu saith deg oʼr arweinwyr aʼu gosod i sefyll o gwmpas y Tabernacl. 25A dymaʼr ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma feʼn cymryd peth oʼr Ysbryd oedd ar Moses, aʼi roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw, dyma nhwʼn proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny.
26Roedd yna ddau ddyn, Eldad a Medad, wedi aros yn y gwersyll. (Roedd y ddau ohonyn nhw ar restr yr arweinwyr, ond ddim wedi mynd at y Tabernacl.) A dymaʼr Ysbryd yn dod arnyn nhw hefyd, a dyma nhwʼn dechrau proffwydo lle roedden nhw, yn y gwersyll. 27Dyma ddyn ifanc yn rhedeg at Moses a dweud wrtho, “Mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll!” 28Felly dyma Josua fab Nwn, un oʼr dynion ifanc roedd Moses wediʼu dewis iʼw wasanaethu, yn dweud, “Moses, meistr! Gwna iddyn nhw stopio!” 29Ond dyma Moses yn ei ateb, “Wyt tiʼn eiddigeddus drosto i? O na fyddai pobl Dduw i gyd yn broffwydi! Byddwn i wrth fy modd petaiʼr ARGLWYDD yn rhoi ei Ysbryd arnyn nhw i gyd!” 30Yna dyma Moses ac arweinwyr Israel yn mynd yn ôl iʼr gwersyll.
Yr ARGLWYDD yn anfon Soflieir
31Dymaʼr ARGLWYDD yn gyrru gwynt wnaeth gario soflieir o gyfeiriad y môr, a gwneud iddyn nhw ddisgyn o gwmpas y gwersyll. Roedd yna soflieir am filltiroedd i bob cyfeiriad, yn hedfan tua metr a hanner uwch wyneb y ddaear. 32Buodd y bobl wrthi ddydd a nos y diwrnod hwnnw, aʼr diwrnod wedyn, yn casgluʼr soflieir. Wnaeth neb gasglu llai na llond deg basged fawr!11:32 Hebraeg, “deg homer”. Cyfaint 1 homer oedd tua 50 galwyn. A dyma nhwʼn eu gosod nhw allan ym mhobman o gwmpas y gwersyll. 33Ond tra oedden nhwʼn bwytaʼr cig, a prin wedi dechrauʼi gnoi, dymaʼr ARGLWYDD yn dangos mor ddig oedd e, ac yn gadael i bla ofnadwy daroʼr bobl. 34Felly cafodd y lle ei alw yn Cibroth-hattaäfa (sef ‘Beddauʼr Gwancus’), am mai dyna lle cafodd y bobl oedd yn awchu am gig eu claddu.
35Yna dymaʼr bobl yn teithio ymlaen o Cibroth-hattaäfa i Chatseroth, ac aros yno.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015