No themes applied yet
1a dod at ei gilydd yn Jerwsalem yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr. Dyma nhwʼn gofyn i Esraʼr ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wediʼi roi i bobl Israel. 2Felly ar ddiwrnod cyntaʼr seithfed mis dyma Esraʼr offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau iʼr gynulleidfa oedd yno – yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall. 3Buʼn darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr oʼr bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrandoʼn astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud.
4Roedd Esraʼn sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wediʼi godiʼn unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith.
5Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dymaʼr bobl i gyd yn sefyll ar eu traed. 6Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dymaʼr bobl yn ateb, “Amen! Amen!” a chodi eu dwylo. Yna dyma nhwʼn plyguʼn isel i addoliʼr ARGLWYDD, aʼi hwynebau ar lawr.
7Tra oedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysguʼr Gyfraith iddyn nhw – Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamîn, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia. 8Roedden nhwʼn darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen.
9Roedd y bobl wedi dechrau crio wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad aʼr ysgrifennydd, aʼr Lefiaid oedd yn rhoiʼr esboniad, yn dweud, “Mae heddiwʼn ddiwrnod wediʼi gysegru iʼr ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a chrio. 10Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a chofiwch rannu gydaʼr rhai sydd heb ddim. Mae heddiwʼn ddiwrnod wediʼi gysegru iʼr Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD syʼn rhoi nerth i chi!”
11Yna dymaʼr Lefiaid yn taweluʼr bobl, a dweud, “Ust! Stopiwch grio. Mae heddiwʼn ddiwrnod cysegredig.” 12Felly dymaʼr bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhwʼn llawen – achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw.
Yr ail ddiwrnod
13Ynaʼr diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid aʼr Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud. 14A dyma nhwʼn darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis.8:14 Lefiticus 23:42 15Roedden nhw i fod i gyhoeddiʼr neges yma drwyʼr trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch iʼr bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed – olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen – i godiʼr llochesau gyda nhw. Dyna sydd wediʼi ysgrifennu yn y Gyfraith.”8:15 Lefiticus 23:40
16Felly dymaʼr bobl yn mynd allan a dod âʼr canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhwʼu hunain – ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim. 17Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl oʼr gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathluʼn llawen. 18Dyma Esra yn darllen o Lyfr Cyfraith Duw bob dydd,8:18 Deuteronomium 31:11 o ddechrauʼr Ŵyl iʼw diwedd. Dyma nhwʼn cadwʼr Ŵyl am saith diwrnod, ac yna yn ôl y drefn dod at ei gilydd i addoli eto.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015