No themes applied yet
Rhestr o offeiriaid a Lefiaid
1Dymaʼr offeiriaid aʼr Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa:12:1 Esra 2:1-2
Offeiriaid:
Seraia, Jeremeia, Esra,
2Amareia, Malŵch, Chattwsh,
3Shechaneia, Rechwm, Meremoth,
4Ido, Gintoi, Abeia,
5Miamin, Maadia, Bilga
6Shemaia, Ioiarîf, Idaïa,
7Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa.
(Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid aʼu cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.)
Lefiaid:
8Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl.
9Bacbwceia ac Wnni aʼu cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau.
Disgynyddion Ieshŵa
10Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacîm, Ioiacîm yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada, 11Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa.
Arweinwyr claniauʼr offeiriaid
12-21Dymaʼr offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad:
Offeiriad | Clan |
Meraia | – o glan Seraia |
Chananeia | – o glan Jeremeia |
Meshwlam | – o glan Esra |
Iehochanan | – o glan Amareia |
Jonathan | – o glan Malŵch |
Joseff | – o glan Shefaneia |
Adna | – o glan Charîm |
Chelcai | – o glan Meraioth |
Sechareia | – o glan Ido |
Meshwlam | – o glan Ginnethon |
Sichri | – o glan Abeia |
… 12:17 Maeʼr enw ar goll yn y rhestr Hebraeg. | – o glan Miniamîn |
Piltai | – o glan Moadeia |
Shammwa | – o glan Bilga |
Jonathan | – o glan Shemaia |
Matenai | – o glan Ioiarîf |
Wssi | – o glan Idaïa |
Calai | – o glan Salw |
Eber | – o glan Amoc |
Chashafeia | – o glan Chilceia |
Nethanel | – o glan Idaïa |
Cofnod o glaniau yr offeiriaid aʼr Lefiaid
22Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia). 23Roedd cofrestr oʼr Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wediʼi gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.
24Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Ieshŵa, Binnŵi,12:24 fel adn. 8. Hebraeg, “fab”. a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw. (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.)
25Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau iʼr stordai wrth y giatiau. 26Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacîm (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esraʼr offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith.
Cysegru Waliau Jerwsalem
27Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dymaʼr Lefiaid o bobman yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau. 28Roedd y cantorion wediʼu casglu hefyd, oʼr ardal o gwmpas Jerwsalem a phentrefi Netoffa, 29Beth-gilgal, aʼr wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhwʼu hunain o gwmpas Jerwsalem.)
30Pan oedd yr offeiriaid aʼr Lefiaid wedi mynd drwyʼr ddefod o buroʼu hunain, dyma nhwʼn cysegruʼr bobl, y giatiau, aʼr wal.
31Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a chael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel. 32Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda. 33Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam, 34Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia – 35offeiriaid gydag utgyrn. Ynaʼn olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff) 36aʼi gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gydaʼr offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wediʼu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma.) 37Dyma nhwʼn mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd iʼr dwyrain.
38Wedyn roedd yr ail gôr i fynd iʼr cyfeiriad arall. Dyma fiʼn eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan, 39dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr.
40Wedyn, dymaʼr ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, aʼr grŵp o arweinwyr oedd gyda fi, 41aʼr offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia. 42Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dymaʼr corau yn canu dan arweiniad Israchïa. 43Roedd yn ddiwrnod o ddathlu, a chafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd aʼr plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem iʼw glywed o bell.
Penodi dynion i gasgluʼr cyfraniadau
44Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadauʼr bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, aʼr degymau. Dyna lle byddai cyfraniadauʼr bobl iʼr offeiriaid aʼr Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch oʼr offeiriaid aʼr Lefiaid oedd yn gwasanaethu. 45Nhw, gydaʼr cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïauʼr puro, fel gwnaeth y Brenin Dafydd aʼi fab Solomon orchymyn. 46Ers pan oedd y Brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, aʼr caneuon o fawl a diolch i Dduw. 47Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran iʼr cantorion aʼr gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran iʼr Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran iʼr offeiriaid, disgynyddion Aaron.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015