No themes applied yet
Llwythau Israel yn ymladd y Canaaneaid
Llwythau Jwda a Simeon yn dal Adoni-besec
1Ar ôl i Josua farw, gofynnodd pobl Israel iʼr ARGLWYDD, “Pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad ar y Canaaneaid?” 2A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda fydd yn arwain. A dw iʼn mynd i roiʼr tir iddyn nhw.”
3Dwedodd arweinwyr llwyth Jwda wrth arweinwyr llwyth Simeon, “Dewch iʼn helpu ni i ymladd y Canaaneaid syʼn byw ar y tir sydd wediʼi roi i ni. Gwnawn ni eich helpu chi wedyn.” Felly dymaʼr dynion o lwyth Simeon yn mynd gyda nhw. 4Dyma lwyth Jwda yn ymosod, a gwnaeth yr ARGLWYDD iddyn nhw drechuʼr Canaaneaid aʼr Peresiaid. Cafodd deg mil o filwyr y gelyn eu lladd yn Besec. 5Yn ystod y frwydr, dyma nhwʼn dod o hyd i Adoni-besec, y brenin. 6Ceisiodd hwnnw ddianc, ond llwyddon nhw iʼw ddal. A dyma nhwʼn torri bodiau ei ddwylo aʼi draed i ffwrdd. 7“Dw i wedi torri bodiau dwylo a thraed saith deg o frenhinoedd,” meddai Adoni-besec. “Roedden nhw i gyd yn gorfod casglu briwsion dan fy mwrdd. A nawr mae Duw wedi taluʼn ôl i mi am beth wnes i iddyn nhw.” Aethon nhw ag e i Jerwsalem, lle buodd e farw. 8Roedd byddin Jwda wedi ymosod ar Jerwsalem, ei dal, lladd ei phobl, a llosgiʼr ddinas yn llwyr.
Llwyth Jwda yn concro Hebron
9Nesaf, dyma fyddin Jwda yn mynd i ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn y bryniau, y Negef iʼr de, aʼr iseldir yn y gorllewin. 10Dyma nhwʼn ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-arba1:10 Ciriath-arba sef, “Dinas o bedair (rhan)”.), a lladd dynion Sheshai, Achiman a Talmai.
Othniel yn concro Debir
(Josua 15:13-19)
11Wedyn dyma nhwʼn ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-seffer). 12Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag syʼn ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” 13Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb) wnaeth goncroʼr dref, a rhoddodd Caleb ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. 14Pan briododd hi Othniel, dyma hiʼn ei berswadio i adael iddi ofyn iʼw thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, gofynnodd ei thad Caleb iddi, “Beth syʼn bod?” 15A dyma hiʼn ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoiʼr ffynhonnau uchaf aʼr ffynhonnau isaf iddi.
Llwythau Jwda a Benjamin yn ennill brwydrau
16Aeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, o Jericho1:16 Jericho Hebraeg, “Tref y Coed Palmwydd”, enw arall ar Jericho. gyda phobl Jwda, a setlo i lawr i fyw gyda nhw ger Arad yn anialwch Jwda yn y Negef.
17Yna aeth dynion llwyth Jwda gyda llwyth Simeon i ymladd yn erbyn y Canaaneaid yn Seffath, a lladd pawb yno. Felly cafodd y dref ei galw yn Horma (sef ‘Dinistr’).
18Wedyn dyma lwyth Jwda yn concro Gasa, Ashcelon ac Ecron, aʼr tiroedd oʼu cwmpas nhw. 19Roedd yr ARGLWYDD yn helpu Jwda. Dyma nhwʼn llwyddo i goncroʼr bryniau, ond roedden nhwʼn methu gyrru allan y bobl oedd yn byw ar yr arfordir am fod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.
20Cafodd tref Hebron ei rhoi i Caleb, fel roedd Moses wedi addo. Llwyddodd Caleb i yrru allan tri clan o bobl oedd yn ddisgynyddion i Anac.
21Ond wnaeth llwyth Benjamin ddim gyrru allan y Jebwsiaid o Jerwsalem. Maeʼr Jebwsiaid yn dal i fyw yn Jerwsalem gyda phobl llwyth Benjamin hyd heddiw.
Llwythau Effraim a Manasse yn concro Bethel
22Dymaʼr ARGLWYDD yn helpu disgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse) pan wnaethon nhw ymosod ar Bethel. 23Dyma nhwʼn anfon ysbiwyr iʼr dref (oedd yn arfer cael ei galw yn Lws). 24Tra oedd yr ysbiwyr yn gwylioʼr dref, roedden nhw wedi gweld dyn yn dod allan ohoni. “Dangos i ni sut allwn ni fynd i mewn iʼr dref, a gwnawn ni arbed dy fywyd di,” medden nhw wrtho. 25Dangosodd y dyn iddyn nhw sut allen nhw fynd i mewn. Felly dyma nhwʼn ymosod ac yn lladd pawb yn y dref. Dim ond y dyn oedd wedi dangos y ffordd i mewn iddyn nhw, aʼi deulu, gafodd fyw. 26Aeth y dyn hwnnw i fyw i ardal yr Hethiaid, ac adeiladu tref yno. Galwodd y dref yn Lws, a dynaʼr enw arni hyd heddiw.
Y bobloedd oedd heb eu gyrru allan oʼr tir
27Wnaeth llwyth Manasse ddim gyrru allan bobl Beth-shean a Taanach aʼu pentrefi, na pobl Dor, Ibleam a Megido aʼr pentrefi oʼu cwmpas nhw chwaith. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud oʼr ardaloedd hynny. 28Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodiʼr Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw; ond wnaethon nhw erioed lwyddo iʼw gyrru nhw allan yn llwyr.
29A wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Roedden nhwʼn byw gyda nhw yn Geser.
30Wnaeth llwyth Sabulon ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Citron a Nahalal. Roedd y Canaaneaid yn byw gyda nhw fel caethweision.
31Wnaeth llwyth Asher ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Acco a Sidon, nac yn Achlaf, Achsib, Chelba, Affec a Rechob. 32Felly roedd llwyth Asher yn byw yng nghanol y Canaaneaid i gyd, am eu bod heb eu gyrru nhw allan.
33Wnaeth llwyth Nafftali ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Beth-shemesh na Beth-anath, ond dyma nhwʼn eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision iddyn nhw. Roedd pobl Nafftali yn gorfod byw yng nghanol y Canaaneaid.
34Cafodd llwyth Dan eu gorfodi gan yr Amoriaid i fyw yn y bryniau. Cawson nhw eu rhwystro rhag dod i lawr i fyw ar yr arfordir. 35Roedd yr Amoriaid yn benderfynol o aros yn Har-cheres, Aialon, a Shaalfîm hefyd. Ond dyma lwythau meibion Joseff yn ymosod yn galed, a dyma nhw yn gorfodiʼr Amoriaid i fod yn gaethweision iddyn nhw. 36Roedd y ffin gydaʼr Amoriaid yn rhedeg o Fwlch y Sgorpion i fyny heibio Sela.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015