No themes applied yet
Israel Anffyddlon
1Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig,
a hithau wedyn yn ei adael ac yn priodi rhywun arall,
dydyʼr dyn cyntaf ddim yn gallu ei chymryd hi yn ôl.3:1 Deuteronomium 24:1-4
Byddai gwneud hynnyʼn llygruʼr tir!
Ti wedi actio fel putain gyda dy holl gariadon;
felly wyt tiʼn meddwl y cei di ddod yn ôl ata i?”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
2“Edrych ar y bryniau o dy gwmpas!
Oes rhywle rwyt heb orwedd i gael rhyw?
Roeddet tiʼn eistedd ar ochr y ffordd,
fel Bedowin yn yr anialwch,
yn disgwyl amdanyn nhw!
Ti wedi llygruʼr tir
gyda dy holl buteinio aʼth ddrygioni.
3Dyna pam does dim glaw wedi bod,
a dim sôn am gawodydd y gwanwyn.
Ond roeddet ti mor benstiff â phutain
ac yn teimlo dim cywilydd o gwbl.
4Ac eto dyma tiʼn galw arna i, ‘Fy nhad!
Ti wedi bod yn ffrind agos ers pan oʼn iʼn ifanc –
5Wyt tiʼn mynd i ddal dig am byth?
Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’
Ie, dyna beth tiʼn ddweud,
ond ynaʼn dal i wneud
cymaint o ddrwg ag y medri di!”
Rhaid i Israel a Jwda droi yn ôl at Dduw3:5 Eseciel 23:2-27
6Pan oedd Joseia yn frenin3:6 Joseia yn frenin sef 640 i 609 CC. dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Ti wedi gweld beth wnaeth Israel chwit-chwat – mynd i ben pob bryn uchel a gorwedd dan bob coeden ddeiliog a chwaraeʼr butain drwy addoli duwiau eraill. 7Hyd yn oed wedyn, roeddwn iʼn gobeithio y byddai hiʼn troiʼn ôl ata i. Ond wnaeth hi ddim. Ac roedd Jwda, ei chwaer anffyddlon, wedi gweld y cwbl. 8Gwelodd fiʼn rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithauʼn mynd ac yn puteinio yn union yr un fath! 9Roedd Israel yn cymryd y cwbl mor ysgafn, ac roedd hi wedi llygruʼr tir drwy addoli duwiau o bren a charreg. 10Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troiʼn ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddaiʼr ARGLWYDD.
11A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Roedd Israel chwit-chwat yn well na Jwda anffyddlon! 12Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel,
‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddaiʼr ARGLWYDD.
‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen.
Dw iʼn Dduw trugarog! Fydda i ddim yn dal dig am byth.
13Dim ond i ti gyfaddef dy fai –
cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela
yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw
a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog,
cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddaiʼr ARGLWYDD.
14“‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddaiʼr ARGLWYDD. ‘Fi ydyʼch gŵr chi go iawn. Bydda iʼn mynd â chiʼn ôl i Seion – bob yn un oʼr pentrefi a bob yn ddau oʼr gwahanol deuluoedd. 15Bydda iʼn rhoi arweinwyr3:15 Hebraeg, “bugeiliaid”. i chi syʼn ffyddlon i mi. Byddan nhwʼn gofalu amdanoch chiʼn ddoeth ac yn ddeallus.’ 16Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddaiʼr ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesiʼr meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd. 17Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoliʼr ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal atiʼn ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg. 18Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gydaʼi gilydd oʼr gaethglud yn y gogledd.3:18 yn y gogledd Asyria, lle cafodd pobl Israel eu cymryd yn gaethion yn 722 CC, a Babilon, lle byddai pobl Jwda yn cael eu cymryd yn gaethion yn 586 CC. Byddan nhwʼn dod yn ôl iʼr wlad rois i iʼw hynafiaid iʼw hetifeddu.”
Troiʼn ôl at Dduw
19“Rôn iʼn arfer meddwl,
‘Dw iʼn mynd i dy drin di fel mab!
Dw iʼn mynd i roiʼr tir hyfryd yma i ti –
yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’
Rôn iʼn arfer meddwl
y byddet tiʼn fy ngalw i ‘Fy nhad’
a byth yn troi cefn arna i.
20Ond yn lle hynny,
buoch yn anffyddlon i mi, bobl Israel,
fel gwraig syʼn anffyddlon iʼw gŵr.”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
21Mae lleisiau iʼw clywed ar ben y bryniau,
sŵn pobl Israel yn crio ac yn pledio ar eu ‘duwiau’.
Maen nhw wedi anghofioʼr ARGLWYDD eu Duw
a chrwydro mor bell oddi wrtho!
22“Dewch yn ôl ata i, bobl anffyddlon;
gadewch i mi eich gwella chi!”
“Iawn! Dyma niʼn dod,” meddaiʼr bobl.
“Ti ydyʼr ARGLWYDD ein Duw ni.
23Dydy eilun-dduwiauʼr bryniau yn ddim ond twyll,
aʼr holl rialtwch wrth addoli ar y mynyddoedd.
Yr ARGLWYDD ein Duw ydyʼr unig un all achub Israel.
24Ond mae Baal, y duw ffiaidd yna, wedi llyncuʼr cwbl
wnaeth ein hynafiaid weithio mor galed amdano oʼr dechrau
– eu defaid aʼu gwartheg, eu meibion aʼu merched.
25Gadewch i ni orwedd mewn cywilydd,
aʼn gwarth fel blanced droson ni.
Dŷn ni aʼn hynafiaid wedi pechu
yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw
oʼr dechrau cyntaf hyd heddiw.
Dŷn ni ddim wedi bod yn ufudd iddo o gwbl.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015