No themes applied yet
Y crochenydd aʼr clai
1Dymaʼr ARGLWYDD yn rhoi neges arall i Jeremeia: 2“Dos i lawr i weithdyʼr crochenydd, a bydda iʼn siarad gyda ti yno.” 3Felly dyma fiʼn mynd i lawr iʼr crochendy, a dyna lle roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell. 4Pan oedd rhywbeth oʼi le ar y potyn roedd yn ei wneud oʼr clai, byddaiʼn dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn.
5A dymaʼr ARGLWYDD yn rhoi neges i mi: 6“Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel maeʼr clai yn nwyloʼr crochenydd.18:6 Eseia 45:9-11 7Galla i ddweud un funud fy mod iʼn mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig. 8Ond os ydy pobl y wlad dw iʼn ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud. 9Dro arall bydda iʼn addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig aʼi gwneud hiʼn sefydlog. 10Ond os ydy pobl y wlad honnoʼn gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.
11“Felly dywed wrth bobl Jwda aʼr rhai syʼn byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw iʼn paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chiʼn eu gwneud.’
12“Ond byddan nhwʼn dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn niʼn mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”
Y bobl yn gwrthod yr ARGLWYDD
13Felly dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Gofyn i bobl y gwledydd eraill
os ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!
Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,
wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!
14Ydyʼr eiraʼn diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus?
Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.
15Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i.
Maen nhwʼn llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth!
Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdd
a mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.
16O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd iʼr wlad.
Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod.
Bydd pawb syʼn pasio heibio yn dychryn
ac yn ysgwyd eu pennauʼn syn.
17Dw iʼn mynd i wneud iʼw gelynion eu gyrru nhw ar chwâl,
fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain.
Bydda iʼn troi cefn arnyn nhw
yn lle troi iʼw helpu nhw pan ddawʼr drychineb.”
Cynllwyn i ymosod ar Jeremeia
18A dymaʼr bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd offeiriaid yn dal ar gael i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”
Jeremeia:
19“ARGLWYDD, wnei di ymateb, plîs?
Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.
20Ydyʼn iawn i dalu drwg am dda?
Maen nhw wedi cloddio twll i mi.
Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn iʼn
pledio ar eu rhan nhw o dy flaen di?
Rôn iʼn ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw.
21Felly gad iʼw plant nhw lwgu!
Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel!
Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant.
Gad iʼr dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau,
aʼr bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel.
22Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y tai
wrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhwʼn ddirybudd.
Maen nhw wedi cloddio twll i mi
a gosod trapiau i geisio fy nal.
23ARGLWYDD, rwyt tiʼn gwybod
eu bod nhwʼn bwriadu fy lladd i.
Paid maddau iddyn nhw eto.
Paid cuddioʼu pechodau nhw o dy olwg.
Gad iddyn nhw faglu o dy flaen.
Delia gyda nhw yn dy lid.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015