No themes applied yet
Bydd pobl Jwdaʼn cael eu cosbi
1Yna dymaʼr ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd! 2Ac os byddan nhwʼn gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint.
Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.
Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn.
Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’
3Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddaiʼr ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgoʼr cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta aʼr anifeiliaid gwyllt yn gorffen beth sydd ar ôl. 4Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dynaʼr gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”15:4 2 Brenhinoedd 21; 23:26; 24:3
Yr ARGLWYDD
5“Pwy syʼn mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem?
Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti?
Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti?
6Ti wedi troi cefn arna i,” meddaiʼr ARGLWYDD.
“Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth!
Felly dw iʼn mynd i dy daro di a dy ddinistrio di.
Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd.
7Dw iʼn mynd i wahanuʼr us aʼr grawn
ym mhob un o drefiʼr wlad.
Dw iʼn mynd i ddinistrio fy mhobl, a mynd âʼu plant i ffwrdd,
am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd.
8Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr.
Bydda iʼn lladd dy filwyr ifanc ganol dydd,
a chwalu bywydau eu mamau.
Bydd dioddef a dychryn
yn dod drostyn nhwʼn sydyn.
9Bydd y fam oedd â saith o feibion
yn anadluʼn drwm mewn panig, ac yn llewygu.
Maeʼr haul oedd yn disgleirio yn ei bywyd
wedi machlud ganol dydd.
Mae hiʼn eistedd mewn cywilydd a gwarth.
A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladd
gan gleddyf y gelyn,”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
Anobaith Jeremeia
10“O, mam! Dw iʼn sori fy mod i wedi cael fy ngeni!15:10 Jeremeia 20:14-15 Ble bynnag dw iʼn mynd dw iʼn dadlau a thynnuʼn groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!” 11A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud diʼn gryf am reswm da? Bydda iʼn gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.15:11 Ystyr yr Hebraeg yn ansicr.
12“Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn oʼr gogledd gyda phres ynddo?”
Yr ARGLWYDD
13“Am eich bod wedi pechu drwyʼr wlad,
bydda iʼn rhoi eich cyfoeth aʼch trysorau
yn ysbail iʼch gelynion.
14Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion
mewn gwlad ddieithr.
Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”
Jeremeia
15“ARGLWYDD, tiʼn gwybod beth syʼn digwydd.
Cofia amdana i, a thyrd iʼm helpu i.
Tyrd i daluʼn ôl iʼr bobl hynny syʼn fy erlid i.
Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i.
Dw iʼn dioddeʼr gwawdio er dy fwyn di.
16Wrth i ti siarad rôn iʼn llyncu pob gair;
roedd dy eiriauʼn fy ngwneud i mor hapus –
rôn i wrth fy modd!
I ti dw iʼn perthyn,
O ARGLWYDD, y Duw hollbwerus.
17Wnes i ddim ymuno hefo pawb arall
yn chwerthin a joio.
Na, roeddwn iʼn cadw ar wahân
am fod dy law di arna i.
Rôn i wedi gwylltio hefo nhw.
18Felly, pam dw iʼn dal i ddioddef?
Pam dw iʼn gorfod goddef hyn i gyd –
fel petawn i wedi fy anafu, aʼr briw yn gwrthod gwella?
Wyt tiʼn mynd iʼm siomi fel nant sydd wedi sychu, –
ffos âʼi dŵr wedi diflannu?”
19A dyma ateb yr ARGLWYDD:
Yr ARGLWYDD
“Rhaid i ti stopio siarad fel yna!
Gwna i dy gymryd diʼn ôl wedyn,
a cei ddal ati iʼm gwasanaethu i.
Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh,
wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i.
Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw,
nid nhwʼn dylanwadu arnat ti!
20Dw iʼn mynd i dy wneud di yn gryf fel wal bres.15:20 Jeremeia 1:18
Byddan nhwʼn ymosod arnat ti
ond yn methu dy drechu di.
Bydda iʼn edrych ar dy ôl di
ac yn dy achub di.”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
21“Bydda iʼn dy achub di o afael y bobl ddrwg yma,
ac yn dy ryddhau o grafangau pobl greulon,”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015