No themes applied yet
Ymostwng i Dduw
1Beth syʼn gyfrifol am yr holl frwydro aʼr gwrthdaro syʼn eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloniʼr hunan ydyʼr drwg? 2Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Maeʼr ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chiʼn ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw. 3A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chiʼn gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser.
4Dych chi fel gwragedd syʼn anffyddlon iʼw gwŷr! Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethauʼr byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un syʼn dewis bod yn gyfaill iʼr byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw. 5Ydych chiʼn meddwl fod beth maeʼr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen? 6Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch
ond maeʼn hael at y rhai gostyngedig.”4:6 Diarhebion 3:34 (LXX)
7Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi. 8Closiwch at Dduw a bydd eʼn closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr. 9Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar aʼch miri yn dristwch. 10Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd eʼn eich anrhydeddu chi.
11Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Maeʼr un syʼn dirmygu neuʼn beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnuʼr Gyfraith dych chiʼn ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadwʼr Gyfraith. 12Aʼr Un sydd wedi rhoiʼr Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydyʼr unig Farnwr go iawn. Fe sydd âʼr gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt tiʼn feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog?
Brolio am fory
13Gwrandwch, chi syʼn dweud, “Awn iʼr lle aʼr lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.” 14Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydyʼch bywyd chi yn ddim byd ond tarth – maeʼn ymddangos am ryw ychydig, ac ynaʼn diflannu! 15Dyma beth dylech chi ddweud: “Os Duw aʼi myn, cawn ni wneud hyn aʼr llall.” 16Ond yn lle hynny dych chiʼn brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn. 17Felly cofiwch, os dych chiʼn gwybod beth ydyʼr peth iawn iʼw wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chiʼn pechu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015