No themes applied yet
Mae hi ar ben ar Israel!
1Pan oedd llwyth Effraim yn siarad
roedd pawb yn crynu –
roedd pawb yn ei barchu yn Israel.
Ond buont ar fai yn addoli Baal,
a dyna oedd eu diwedd.
2Ac maen nhwʼn dal i bechu!
Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd;
eilunod cywrain wediʼu gwneud o arian –
ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydyʼr cwbl!
Mae yna ddywediad amdanyn nhw:
“Maeʼr bobl syʼn aberthu
yn cusanu teirw!”
3Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,
neuʼr gwlith syʼn diflannuʼn gynnar;
fel us yn cael ei chwythu oʼr llawr dyrnu,
neu fwg syʼn dianc drwy ffenest.
4“Ond fi ydyʼr ARGLWYDD eich Duw,
ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.
Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –
Fi ydyʼr unig un syʼn achub!
5Fi wnaeth fwydoʼch pobl yn yr anialwch,
mewn tir sych, diffaith.13:5 tir sych, diffaith Buodd Israel yn crwydro yn yr anialwch am 40 mlynedd ar ôl dianc oʼr Aifft. 13:5,6 Deuteronomium 8:11-17
6Ond wediʼu bwydo, roedden nhwʼn fodlon –
mor fodlon nes iddyn nhw droiʼn falch,
ac yna fy anghofio i!
7Felly bydda iʼn rhuthro arnyn nhw fel llew,
ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8Bydda iʼn ymosod arnyn nhw
fel arth wedi colli ei chenawon;
aʼu llarpio nhw fel llew,
neu anifail gwyllt yn rhwygoʼi ysglyfaeth.
9Dw iʼn mynd i dy ddinistrio di, O Israel!
Pwy sydd yna i dy helpu di?
10Ble mae dy frenin,
iddo fe dy achub di?
Ble maeʼr arweinwyr yn dy drefi?
Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.13:10 1 Samuel 8:5,6
11Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig,
a dw i wediʼi gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!13:11 a 1 Samuel 10:17-24; b 1 Samuel 15:26
12Maeʼr dyfarniad ar Effraim13:12 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac maeʼn aml yn cynrychioliʼr wlad yn gyfan. wediʼi gofnodi,
aʼi gosb wediʼi gadwʼn saff iddo.
13Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig syʼn cael babi;
maeʼr amser wedi dod, ac maeʼr plentyn dwl
yn gwrthod dod allan oʼr groth, a byw.
14Ydw iʼn mynd iʼw hachub nhw o fyd y meirw?13:14 1 Corinthiaid 15:55
Ydw iʼn mynd iʼw rhyddhau o afael marwolaeth?
O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?
O fedd! Ble mae dy ddinistr di?
Fydda iʼn dangos dim trugaredd!”
Bydd Samariaʼn cael ei dinistrio
15Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors,
ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain
i fyny o gyfeiriad yr anialwch.
Bydd y dŵr yn sychu, aʼr ffynhonnauʼn diflannu,
aʼr bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.
16Bydd Samaria13:16 Samaria Prifddinas Israel. yn cael ei galw i gyfri
am wrthryfela yn erbyn ei Duw.
Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel,
plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,
aʼr gwragedd beichiog yn cael eu rhwygoʼn agored.13:16 2 Brenhinoedd 8:12
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015